Mater - cyfarfodydd

Budget 2024/25 – Stage 2

Cyfarfod: 19/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 31)

31 Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 123 KB

Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a'i ddiben oedd adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau o ran y gyllideb a lleihau costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

 

            Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) gyflwyniad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Phennu Cyllideb 2024/25 a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer y Cyngor

·      Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol – Risgiau Parhaus

·         Y Sefyllfa Gyffredinol ar ôl y datrysiadau cychwynnol

·         Crynodeb a Chasgliadau

·         Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Addysg ac Ieuenctid

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid

·         Her Cyllideb 2024/25 – ein dull ni

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (1)

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (2)

·         Crynodeb o Ostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (3)

·         Pwysau o ran Costau ar Ysgolion

·         Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Ysgolion

·         Gostyngiadau yng Nghyllideb Ysgolion

·         Portffolio Addysg ac Ieuenctid a Risgiau Parhaus mewn Ysgolion

·         Y tu allan i’r Sir

·         Y Camau Nesaf ar gyfer y Broses o Bennu Cyllideb 2024/25

·         Proses y Gyllideb – Cam 2

·         Proses y Gyllideb – Cam 3 (Terfynol) 

 

            Wrth gyfeirio at y cyflwyniad, argymhellodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylai’r eitemau canlynol gael eu cynnwys ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor, a eiliwyd gan y Cynghorydd Jason Shallcross:-

 

·         Recriwtio a Chadw Staff – Adroddiad ar faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff yn y Portffolio Addysg ac Ieuenctid; a

·         Demograffeg – Adroddiad ar ddemograffeg a sut y byddai hyn yn effeithio ar gyllidebau yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar ddiogelu gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) fod lefel yr achosion cymhleth mewn ysgolion wedi cynyddu ers y pandemig. Eglurwyd bod gan ysgolion gyfrifoldebau sylweddol o ran Diogelu ac Amddiffyn Plant ac mae’r portffolio’n rhoi cymorth ychwanegol i ysgolion ynghyd â chyngor ac arweiniad cyfredol. Roedd diogelu yn gymhleth ac yr oedd yn newid yn barhaus yn enwedig o ran diogelwch ar-lein. Oherwydd bod Diogelu yn cael ei flaenoriaethu, eglurwyd bod hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y tîm a'u gallu i gefnogi ysgolion.

 

Wrth ymateb i'r awgrym a wnaeth y Cynghorydd Mackie ar gyfer yr eitemau ychwanegol yn ymwneud â recriwtio a chadw a demograffeg, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) fod y materion yn ymwneud â recriwtio a chadw yn fater ehangach sy'n effeithio ar bob portffolio, felly byddai angen ystyried sut y gellid bwrw ymlaen â hyn. Eglurodd hefyd fod tystiolaeth o newidiadau mewn demograffeg ac y dylid disgwyl y rhain yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y ddemograffeg yn y ddarpariaeth arbenigol yn cynyddu o ran niferoedd a chymhlethdod. Bu gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd ac eglurodd hi fod gr?p mwy o ddisgyblion blwyddyn 6 wedi bod yn trosglwyddo i ysgolion uwchradd eleni a bod y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn llai. Byddai hyn yn anffodus yn effeithio ar ysgolion  ...  view the full Cofnodion text for item 31