Mater - cyfarfodydd
Cyllideb 2022/23 - Cam 2
Cyfarfod: 19/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 31)
31 Cyllideb 2022/23 - Cam 2 PDF 123 KB
Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a'i ddiben oedd adolygu a rhoi sylwadau ar y pwysau o ran y gyllideb a lleihau costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Strategol a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) gyflwyniad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Phennu Cyllideb 2024/25 a oedd yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid:
· Pwrpas a Chefndir
· Y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer y Cyngor
· Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol – Risgiau Parhaus
· Y Sefyllfa Gyffredinol ar ôl y datrysiadau cychwynnol
· Crynodeb a Chasgliadau
· Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Addysg ac Ieuenctid
· Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid
· Her Cyllideb 2024/25 – ein dull ni
· Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (1)
· Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (2)
· Crynodeb o Ostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid
· Gostyngiadau yng Nghyllideb Addysg ac Ieuenctid (3)
· Pwysau o ran Costau ar Ysgolion
· Crynodeb o’r Pwysau o ran Costau ar Ysgolion
· Gostyngiadau yng Nghyllideb Ysgolion
· Portffolio Addysg ac Ieuenctid a Risgiau Parhaus mewn Ysgolion
· Y tu allan i’r Sir
· Y Camau Nesaf ar gyfer y Broses o Bennu Cyllideb 2024/25
· Proses y Gyllideb – Cam 2
· Proses y Gyllideb – Cam 3 (Terfynol)
· Recriwtio a Chadw Staff – Adroddiad ar faterion yn ymwneud â recriwtio a chadw staff yn y Portffolio Addysg ac Ieuenctid; a
· Demograffeg – Adroddiad ar ddemograffeg a sut y byddai hyn yn effeithio ar gyllidebau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn ar ddiogelu gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) fod lefel yr achosion cymhleth mewn ysgolion wedi cynyddu ers y pandemig. Eglurwyd bod gan ysgolion gyfrifoldebau sylweddol o ran Diogelu ac Amddiffyn Plant ac mae’r portffolio’n rhoi cymorth ychwanegol i ysgolion ynghyd â chyngor ac arweiniad cyfredol. Roedd diogelu yn gymhleth ac yr oedd yn newid yn barhaus yn enwedig o ran diogelwch ar-lein. Oherwydd bod Diogelu yn cael ei flaenoriaethu, eglurwyd bod hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y tîm a'u gallu i gefnogi ysgolion.
Wrth ymateb i'r awgrym a wnaeth y Cynghorydd Mackie ar gyfer yr eitemau ychwanegol yn ymwneud â recriwtio a chadw a demograffeg, dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol (Addysg) fod y materion yn ymwneud â recriwtio a chadw yn fater ehangach sy'n effeithio ar bob portffolio, felly byddai angen ystyried sut y gellid bwrw ymlaen â hyn. Eglurodd hefyd fod tystiolaeth o newidiadau mewn demograffeg ac y dylid disgwyl y rhain yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y ddemograffeg yn y ddarpariaeth arbenigol yn cynyddu o ran niferoedd a chymhlethdod. Bu gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd ac eglurodd hi fod gr?p mwy o ddisgyblion blwyddyn 6 wedi bod yn trosglwyddo i ysgolion uwchradd eleni a bod y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn llai. Byddai hyn yn anffodus yn effeithio ar ysgolion ... view the full Cofnodion text for item 31