Mater - cyfarfodydd

Budget 2024/25 – Stage 2

Cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 34)

34 Cyllideb 2022/23 - Cam 2 pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol ac gostyngiadau mewn costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a Rheolwr Cyllid Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf am y gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu’r pwysau ar y gyllideb a dewisiadau gostwng costau ym meysydd Llywodraethu, Gwasanaethau Corfforaethol ac Asedau, fel y nodwyd yn y cyflwyniad a oedd yn cwmpasu:

 

·         Pwrpas a Chefndir

·         Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol ar gyfer y Cyngor yn 2024/25

·         Risgiau Parhaus

·         Y sefyllfa gyffredinol wedi’r datrysiadau cychwynnol

·         Pwysau Costau a Gostyngiadau yn y Gyllideb

·         Y Camau Nesaf ar gyfer Gosod Cyllideb 2024/25

 

Yr oedd yr isafswm gofyniad cyllidebol o £32.386 miliwn ychwanegol o adnoddau refeniw ar gyfer 2024/25 yn cymryd i ystyriaeth nifer o risgiau parhaus, gan gynnwys cyflogau’r sector cyhoeddus, y galw uchel am rai gwasanaethau a phwysau chwyddiannol a oedd yn cael eu monitro.  Byddai cymryd datrysiadau cychwynnol i ystyriaeth yn gadael bwlch o £14.042 miliwn ar ôl yn y gyllideb, a oedd yn achosi her fawr i’r Cyngor os nad oedd unrhyw symudiad am fod yn y cynnydd dangosol o 3.1% yn setliad Llywodraeth Cymru (LlC).  Yr oedd y cyflwyniad yn amlygu’r angen am raglen strategol o newid trawsffurfiol i sicrhau bod y Cyngor yn datblygu gostyngiadau mewn costau dros y tymor canolig i amddiffyn ei sefyllfa ariannol barhaus yn y dyfodol ac i baratoi ar gyfer heriau cyllidebol yn y dyfodol a oedd yn anochel.

 

Gofynnid i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu pwysau costau portffolios, dewisiadau effeithlonrwydd a risgiau cysylltiedig yn drylwyr, a nodi unrhyw feysydd ychwanegol o effeithlonrwydd costau.  Byddai crynodeb o ganlyniadau o’r sesiynau hyn yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yng nghyfarfod mis Tachwedd, a fyddai’n agored i bob Aelod.  Yn dilyn derbyn y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr, yng nghyfarfodydd Trosolwg a Chraffu ym mis Ionawr byddai raid ystyried y gostyngiadau cyllidebol pellach sydd eu hangen i lenwi’r bwlch sydd ar ôl yn y gyllideb er mwyn i’r Cyngor fodloni ei rwymedigaeth statudol o osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror 2024.

 

Llywodraethu

 

Mynegodd y Cynghorydd Bernie Attridge bryderon yngl?n ag effaith y cynnig o gael gwared â swydd wag Archwilio Mewnol.  Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Rheolwr Archwilio Mewnol wedi cynnig y swydd wag hirdymor hon fel effeithlonrwydd yn dilyn newidiadau yn strwythur y tîm, ac y byddai’n cyflawni ei dyletswydd drwy roi barn archwilio flynyddol yn seiliedig ar y lefel o adnoddau sydd ar gael.

 

Parthed gwasanaethau a rennir, rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG enghreifftiau o gyfranogiad y Cyngor mewn fforwm cenedlaethol yn ogystal â gwaith arall ar y cyd ar ddiogelwch seibr.  Dywedodd mai pwysau Technegydd Seibr oedd cefnogi swydd a oedd wedi ei hariannu ar gyfer 2023/24, a chynghorodd yn erbyn swydd wedi ei rhannu oherwydd y risg uchel yn ymwneud â bygythiadau seibr yn y DU.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yngl?n â chael gwared â swydd Archwilio Mewnol, a chwestiynodd yr atebolrwydd posibl o golli’r swydd.

 

Nid oedd y Prif Swyddog yn disgwyl unrhyw effaith ar achosion o dwyll a  ...  view the full Cofnodion text for item 34