Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2023-24 Mid-Year Performance Reporting (EYC OSC))

Cyfarfod: 01/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 46)

46 Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24. pdf icon PDF 114 KB

Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad canol blwyddyn ar berfformiad gan ddweud bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i’r pwyllgor  ar gynnydd blaenoriaethau’r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2023/24.  Roedd hwn yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau ac yn canolbwyntio ar feysydd nad oedd yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.  Roedd pwynt 1.05 yn yr adroddiad yn datgan nad oedd unrhyw weithgareddau neu ddangosyddion perfformiad a oedd yn dangos statws COG coch ar gyfer y portffolio.   Roedd llawer o waith dal yn cael ei wneud o ran cyflawni Blaenoriaethau Cynllun y Cyngor.

           

Yn dilyn sawl cwestiwn gan y Cynghorydd Mackie, darparodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ymatebion manwl i gwestiynau mewn perthynas â lefelau presenoldeb a’r Gwasanaeth Lles Addysg, plant a oedd yn cael trafferth ailymgysylltu â’r ysgol ar ôl y pandemig, penodi Gweithwyr Ymgysylltu a mabwysiadu’r Strategaeth Ddigidol mewn ysgolion.

 

            Yr amcan cyffredinol oedd codi lefelau presenoldeb ac roedd y Prif Swyddog yn falch iawn o allu dweud bod lefelau presenoldeb yn gwella, a bod yr awdurdod yn y pedwerydd safle drwy Gymru ar hyn o bryd.  Cadarnhawyd bod y sylw a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â pha gamau gweithredu oedd eu hangen a pha gamau oedd yn cael eu cymryd i barhau i wella lefelau presenoldeb.  Rhoddwyd gwybodaeth am ddatblygu prosesau gwell a mwy effeithiol mewn ysgolion gan sicrhau bod y Gwasanaeth Lles Addysg yn defnyddio’r data hwnnw i dargedu eu hymyriadau’n fwy effeithiol mewn ysgolion. 

 

            Eglurwyd bod y defnydd o’r Grant Ysgolion Bro a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi gweithwyr ymgysylltu, a oedd yn gweithio gydag ysgolion a theuluoedd, i fynd i’r afael â’r materion craidd a oedd yn arwain at bobl ifanc yn peidio â mynychu’r ysgol neu’n cael trafferth cadw eu lle.  Roedd hwn yn gam i gyflawni’r amcan cyffredinol o geisio lleihau gwaharddiadau. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ted Palmer yngl?n â phresenoldeb ysgol o ganlyniad i’r Pandemig, dywedodd y Prif Swyddog fod hwn yn fater cenedlaethol a bod y Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol wedi cael ei greu gan y Gweinidog i fynd i’r afael â hyn.  Rhoddwyd amlinelliad o’r partneriaid sy’n aelod o’r Tasglu hwn a mynychodd y Prif Swyddog y cyfarfod cyntaf yr wythnos cynt.  Cytunodd y byddai’n dosbarthu dau adroddiad a baratowyd gan riant-elusennau ac a gyflwynwyd i’r cyfarfod hwnnw, ac fe dynnodd sylw at y newid yn agwedd y disgyblion a’r rhieni tuag at bresenoldeb.  Esboniwyd bod yn rhaid i’r cwricwlwm fod yn briodol, yn gyffrous ac yn ddifyr er mwyn i blant fynychu’r ysgol.  Eglurwyd sut yr oedd y cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar yr agweddau hyn.

 

            Canmolodd y Cynghorydd Carolyn Preece waith y Swyddogion ar yr adroddiad a oedd yn dangos nad oedd unrhyw statws Coch a dywedodd bod y targedau perfformiad ar gyfer pob maes yn dangos bod statws Oren a Gwyrdd yn gyrraeddadwy. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at lefelau presenoldeb a gofynnodd a fyddai lefelau addysgu gartref yn cynyddu a gofynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 46