Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24
Cyfarfod: 14/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 55)
55 Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24 PDF 118 KB
Pwrpas: Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Council Plan 2023/24 Mid-Year Performance Monitoring Report, eitem 55 PDF 3 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd ar ganol y flwyddyn yn ôl blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2023/24. Roedd yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd perfformiad oedd ddim yn cyrraedd eu targed ar hyn o bryd.
Dan gylch gwaith y Pwyllgor hwn, roedd un gweithgaredd oedd ddim yn dangos llawer o gynnydd yn ymwneud â’r adolygiad o’r strategaeth ystadau diwydiannol. Roedd dadansoddiad o gynnydd o gymharu â’r dangosyddion perfformiad yn dangos pedwar maes lle’r oedd tanberfformio ar y targed dan flaenoriaethau Tlodi a Chyngor sy’n Cael ei Reoli’n Dda.
Ynghlwm â chanran y galwadau ffôn oedd yn cael eu hateb yn y Ganolfan Gyswllt, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gefndir i’r heriau recriwtio a chadw staff oedd yn parhau i fod o fewn y gwasanaeth hwnnw, fel y gwelwyd mewn adroddiadau blaenorol. Fel un o’r ffrydiau gwaith dan newid sefydliadol, byddai cefnogaeth ychwanegol yn cael ei chyflwyno dros dro i wella gwytnwch a sefydlogrwydd o fewn y gwasanaeth trwy edrych ar opsiynau ar gyfer deallusrwydd artiffisial (AI).
Dywedodd y Cadeirydd fod gostyngiad yn nifer y mesuryddion a chynnydd yn y mesuryddion ‘coch’ ers 2022/23 yn awgrymu dirywiad mewn perfformiad ar y cam hwn.
Wrth gydnabod y camau oedd yn cael eu cymryd i ymdrin â’r pwysau o fewn y Ganolfan Gyswllt, awgrymodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y byddai angen camau gweithredu mwy a fyddai’n cynnwys rhagor o bwysau costau i wella’r perfformiad.
Yn ateb, eglurodd y Prif Swyddog y byddai canfyddiadau gwaith dadansoddi data i ddeall effaith deallusrwydd artiffisial ar berfformiad yn cael eu rhannu gyda’r Aelodau pan fyddent ar gael.
Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn croesawu’r eglurhad, a holodd am fanteision cael cwmni allanol i ateb galwadau. Cytunodd y Prif Swyddog i drafod gyda’r rheolwr gwasanaeth i ofyn am gostau hyn o gymharu â gwasanaeth gwell gan y Ganolfan Gyswllt gyda thechnoleg deallusrwydd artiffisial.
Wrth drafod cael cwmni allanol i ateb galwadau, soniwyd bod angen i atebwyr galwadau fod â’r wybodaeth leol a’r hyfforddiant angenrheidiol, yn ogystal â bodloni gofynion y Gymraeg.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2023–28 i’w cyflawni yn 2023/24;
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2023/24; a
(c) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.