Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24

Cyfarfod: 07/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 34)

34 Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor 2023-24. pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad canol blwyddyn ar berfformiad ar draws y Cyngor cyfan, gyda’r tabl yn adran 1.04 yn cynnwys pob portffolio.  Dywedodd mai’r atodiad oedd fwyaf perthnasol i’r Pwyllgor hwn a’r is-faes perthnasol oedd Lles Personol a Chymunedol a oedd â statws COG gwyrdd o 90% a statws COG coch o 10% ac o ran Lles roedd statws COG gwyrdd o 85% a statws COG coch o 15%.  Tynnodd sylw at rai mesurau fel a osodwyd yn yr atodiadau.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Debbie Owen, dywedodd y Prif Swyddog fod rhai blaenoriaethau yn cael eu cefnogi gan fwy nag un portffolio ac er nad oedd yn gyfrifoldeb ar Wasanaethau Cymdeithasol, roedd y maes cyffredinol o amgylchedd lleol glân, diogel gyda chysylltiadau da yn dod o dan y maes perfformiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill gwestiynau ynghylch gofal mewnol a recriwtio staff. Eglurodd y Prif Swyddog fod y ddarpariaeth fewnol yn cynnwys llu o wasanaethau, roedd llawer ohonynt wedi’u rheoleiddio ac felly roedd arnynt angen y staff gofynnol i ddarparu’r gwasanaeth ac roedd yr archwiliadau wedi’u rheoleiddio wedi cadarnhau bod ganddynt ddigon o staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da yn y meysydd hynny. Fodd bynnag, nid oedd ganddo’r union nifer o swyddi gwag ond byddai’n darparu’r ffigwr ar ôl y cyfarfod.  Fe ychwanegodd fod recriwtio wedi gwella ers y pandemig.

 

Mewn ymateb i ail gwestiwn y Cynghorydd McGuill yngl?n â phlant yn gadael gofal a’r sefyllfa dai, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd ganddo’r wybodaeth benodol am y rhai sy’n gadael gofal ond cytunodd ei fod yn faes pryderus yr oeddent yn ei ystyried. Dywedodd fod gan ddigartrefedd broblemau y tu allan i Sir y Fflint ac roedd yn bryder mawr yn genedlaethol ac fe gytunodd ei bod yn iawn i’w nodi.  Dywedodd hefyd fod y portffolio wedi cynnal cyfarfodydd ar y cyd â Thai ac y byddai llety ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal yn flaenoriaeth mewn cyd-gyfarfod yn y dyfodol.

 

Wrth ymateb i’r Cynghorydd Mackie, eglurodd y Prif Swyddog bod y targed Taliad Uniongyrchol ar gyfer y flwyddyn ond ei fod wedi ei gymhwyso i’r cyfnod hwn oherwydd ei fod yn ganran ac roedd y perfformiad ar gyfer y cyfnod ac nid y flwyddyn lawn.  Cytunodd gyda’r hyn a ddywedodd am y dyraniad o 12.7% ar gyfer Taliadau Uniongyrchol i Bobl H?n ond dywedodd ei fod yn adlewyrchu’r sefyllfa yn genedlaethol oherwydd natur y gefnogaeth a ddarperir i bobl h?n.  Fodd bynnag, nid oedd i gyd yn hirdymor fel categorïau eraill ac roedd yn tueddu i ddenu canran lai o bobl a oedd eisiau taliadau uniongyrchol o’i gymharu â phobl ag anableddau gydol oes a oedd â mwy o daliadau uniongyrchol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mel Buckley a Tina Claydon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau a fanylwyd yng Nghynllun y Cyngor 2023/28 i’w cyflawni o fewn 2023/24;

 

(b)       Bod  ...  view the full Cofnodion text for item 34