Mater - cyfarfodydd
Polisi Addasiadau i'r Anabl
Cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet (eitem 67)
67 Polisi Addasiadau i'r Anabl PDF 109 KB
Pwrpas: Cyflwyno'r Polisi wedi'i ddiweddaru ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Disabled Adaptations Policy, eitem 67 PDF 135 KB
- Enc. 2 for Disabled Adaptations Policy, eitem 67 PDF 566 KB
- Enc. 3 for Disabled Adaptations Policy, eitem 67 PDF 71 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Polisi Addasiadau i'r Anabl
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby’r adroddiad ac eglurodd fod Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn rhoi dyletswydd orfodol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu grantiau cyfleusterau i bobl anabl.
Roedd y grant ar gael i addasu neu ddarparu cyfleusterau i unigolion anabl mewn annedd. Roedd yr adroddiad oedd yn manylu’r newidiadau i’r polisi oedd yn ofynnol i alinio addasiadau ar gyfer y sector preifat neu gyda rhai tai cyngor awdurdod lleol.
Roedd y terfyn statudol ar gyfer Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn £36,000 ar hyn o bryd fesul cais o fewn cyfnod o bum mlynedd. Fodd bynnag, mae modd cyflwyno ceisiadau eraill o fewn y cyfnod hwnnw os yw cyflwr meddygol y cwsmeriaid wedi newid. Byddai’r achos yn cael ei adolygu gyda’r Therapydd Galwedigaethol ar ôl derbyn y cais.
Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau fod unrhyw waith addasu’n darparu’r
datrysiad mwyaf effeithiol yn y tymor hir i fodloni anghenion yr unigolyn anabl.
Datganodd y Cynghorydd Attridge, a oedd yn bresennol fel arsylwr, ddatganiad personol.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod y Pwyllgor Trosolwg Cymunedau a Thai wedi ystyried yr adroddiad fis ynghynt a chefnogwyd yr argymhellion. Gofynnwyd nifer o gwestiynau, a’u hateb, ynghylch argaeledd Therapyddion Galwedigaethol a phridiannau tir.
PENDERFYNWYD:
Bod y polisi Addasiadau i Bobl Anabl a ddiweddarwyd oedd yn cynnwys cartrefi preifat ac eiddo stoc y cyngor yn cael eu cefnogi a’u cymeradwyo.