Mater - cyfarfodydd
Mandatory Licensing Scheme for Special Procedures
Cyfarfod: 04/10/2023 - Pwyllgor Trwyddedu (eitem 4)
4 Cynllun Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig PDF 94 KB
Pwrpas: I amlinellu goblygiadau’r gofyniad newydd sef Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau’r adroddiad a oedd yn nodi goblygiadau’r gofynion oedd i ddod o ran Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig.
Eglurwyd y byddai cynllun trwyddedu newydd ar gyfer ‘Triniaethau Arbennig’, yn cynnwys tat?io, lliwio croen lled-barhaol, tyllu cosmetig, aciwbigo, nodwyddo sych ac electrolysis, yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru (LlC) tua mis Mehefin 2024 dan Ran 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Roedd y prif ofynion wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn cynnwys yr angen i is-bwyllgor benderfynu ar geisiadau am drwydded a byddai hyfforddiant ar hynny’n cael ei ddarparu. Yn dilyn gwaith ymgynghori oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan LlC, byddai adroddiad ar y canlyniad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.
Yn ateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Lloyd, soniodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau am gynlluniau i greu cofrestr ar-lein. Rhoddodd eglurhad hefyd yn ateb i ymholiadau am gyfyngiadau oedran.
Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Preece a oedd angen i fusnesau arddangos eu dogfennau cymeradwyaeth, yn debyg i fusnesau hylendid bwyd, a chadarnhawyd bod angen.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mared Eastwood a Richard Lloyd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn aros am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru.