Mater - cyfarfodydd
Perfformiad Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru - Adroddiad Sicrwydd
Cyfarfod: 11/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 41)
41 Perfformiad Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru - Adroddiad Sicrwydd PDF 136 KB
Pwrpas: Darparu diweddariad ar gynnydd Safonau Ansawdd Tai Cymru y mae’r Cyngor yn eu darparu trwy ei Raglen Fuddsoddi Cyfalaf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai adroddiad a roes y wybodaeth ddiweddaraf am y modd y cyflawnai’r Cyngor Safon Ansawdd Tai Cymru trwy’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf.
Llwyddodd y Cyngor i gwblhau rhaglen waith fel bod holl stoc y Cyngor yn bodloni’r Safon, gan fuddsoddi mwy na £100 miliwn o gyfalaf, ac roedd y rhaglen bellach wedi troi at waith cynnal a chadw, a buddsoddi ychwaneg o arian yn y gwaith
angenrheidiol a nodwyd. Roedd yr adroddiad yn manylu ynghylch yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a’r prif destun sylw yng ngham nesaf cynllun buddsoddi’r Cyngor ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru.
Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y sicrhaodd y Cyngor gydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru ym mis Rhagfyr 2021. Wedi bodloni’r Safon roedd hi’n bwysig bod y Cyngor yn sicrhau y cynhelid y safon a chynlluniwyd y buddsoddiadau’n unol â hynny. Roedd yno raglen fuddsoddi dreigl ar gyfer cynnal y safon a gosod trefn ar gyfer gosod elfennau newydd lle bo’r angen.
Cyhoeddid canllawiau diwygiedig ar Safon Ansawdd Tai Cymru ddiwedd 2023 a byddai angen i’r Cyngor baratoi ar gyfer y newidiadau y byddai’n rhaid eu cyflawni er mwyn dal i gydymffurfio.
Wrth sôn am yr angen am doeau a ffenestri newydd, holodd y Cynghorydd Ted Palmer a ellid fod wedi gwneud y gwaith fel rhan o’r cynllun blaenorol, a gofynnodd a oedd yno gynllun ar gyfer cwblhau’r gwaith cyn gynted â phosib. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai ac Asedau’r gwahanol resymau pan na adnewyddwyd yr holl doeau a ffenestri cyn 2020, gan gynnwys y ffaith nad oedd angen eu hadnewyddu i gyd fel y nodwyd yn yr arolwg o gyflwr y stoc. Pwysleisiodd fod angen diogelu holl fuddsoddiadau’r Cyngor a phe gellid trwsio elfennau fel eu bod yn para’n hwy, byddai hynny’n fwy effeithlon.
Gofynnodd y Cynghorydd Palmer sut roedd trwsio toeau a ffenestri yn berthnasol i’r angen i sicrhau bod yr adeiladau’n defnyddio ynni’n effeithlon. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y mabwysiadwyd dull cyfannol wrth ddefnyddio’r dechnoleg oedd ar gael i sicrhau bod cartrefi mor effeithlon â phosib wrth gadw gwres.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at yr ystadegyn a ddangosai bod y Cyngor wedi cydymffurfio 100% â’r Safon yn y tair blynedd diwethaf, a gofynnodd a oedd y Rheolwr Gwasanaeth wedi sylwi ar ostyngiad yn nifer yr eiddo gwag a oedd angen gwaith sylweddol, yn sgil y gwaith a wnaed i fodloni’r Safon. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Asedau Tai y bu gostyngiad, a bod mwy o eiddo gwag yn dod yn ôl ar y farchnad ac yn bodloni’r Safon. Roedd a wnelo’r buddsoddiadau mwyaf â gwaith trydanol a phlastro, a oedd yn peri aflonyddwch i denantiaid yn eu cartrefi. Ar y cyfan, roedd eiddo’n dod yn ôl ar y farchnad mewn cyflwr gwell oherwydd y buddsoddiad a wnaed yn y pum mlynedd diwethaf.
Ategodd y Cynghorydd Sean Bibby (Aelod Cabinet Tai ac Adfywio) sylwadau’r Rheolwr Gwasanaeth yngl?n â’r ffaith mai gwaith trydanol a phlastro oedd yr elfennau mwyaf ... view the full Cofnodion text for item 41