Mater - cyfarfodydd
Hunanasesiad Corfforaethol
Cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet (eitem 62)
62 Hunanasesiad Corfforaethol PDF 198 KB
Pwrpas: I roi’r adroddiad terfynol i Aelodau, gyda chrynodeb o’r casgliadau ar ôl cwblhau Cam 2 yn cynnwys crynodeb o adborth ar ôl ymgynghoriad ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Corporate Self-assessment, eitem 62 PDF 332 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Hunanasesiad Corfforaethol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod yn rhaid i Gynghorau gyflwyno adroddiad hunanasesu ar gyfer bob blwyddyn ariannol. Rhaid i’r adroddiad nodi ei gasgliadau yngl?n ag i ba raddau y mae wedi bodloni’r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn honno, ac unrhyw gamau yr oedd yn bwriadu eu cymryd, neu yr oedd eisoes wedi’u cymryd, i gynyddu’r graddau y mae’n bodloni’r gofynion perfformiad.
Roedd y model hunanasesu yn dilyn proses tri cham:
· Cam un – dadansoddi a gwerthuso ‘wrth ddesg’
· Cam dau - canfod barn, ymgynghori ac ymgysylltu
· Cam tri - cyhoeddi’r asesiad terfynol a’r cynllun gwella
Eglurodd y Prif Weithredwr bod canlyniadau’r Hunanasesiad Corfforaethol wedi nodi bod y Cyngor, ar y cyfan, yn perfformio’n dda yn erbyn yr asesiad; 3% Arfer Orau, 6% Arfer Orau / Tystiolaeth Dda a 74% Tystiolaeth Dda. Nododd ganlyniadau’r Hunanasesiad Corfforaethol gyfleoedd ar gyfer gwelliant hefyd; 14% Tystiolaeth ond Angen Camau Gweithredu Pellach a 2% Peth Tystiolaeth ond Diffyg mewn Meysydd Allweddol.
Croesawodd y Cynghorydd Healey y ddogfen a llongyfarchodd bawb a oedd ynghlwm â’r broses.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a
(b) Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu cymeradwyo.