Mater - cyfarfodydd

Archwiliad Cymru - Cynllun Archwilio Manwl Cyngor Sir y Fflint 2023

Cyfarfod: 27/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 31)

31 Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio Manwl Cyngor Sir y Fflint 2023 pdf icon PDF 112 KB

Adolygu Cynllun Archwilio - Archwilio Cymru 2023 ar gyfer y Cyngor sy’n nodi’r gwaith archwilio arfaethedig ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal ag amserlen, costau a’r timoedd archwilio sy’n gyfrifol am gynnal y gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Whiteley Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2023 yn cynnwys gwaith archwilio ariannol a pherfformiad arfaethedig ar gyfer y Cyngor gan gynnwys amserlenni, costau a chyfrifoldebau.

 

Wrth grynhoi adrannau allweddol o waith archwilio ariannol, tynnwyd sylw at y ffaith bod rheolwyr yn diystyru rheolaethau a oedd yn risg sylweddol ddiofyn ym mhob Cynllun Archwilio, ynghyd â meysydd risg eraill yn ymwneud â materion cymhleth nad oeddent yn benodol i Sir y Fflint.  O ran yr archwiliad o ddatganiadau ariannol, golygodd newidiadau i’r amserlen na fyddai’r archwiliad yn cychwyn tan fis Tachwedd 2023 oherwydd llithriad yng ngwaith Archwilio Cymru a heriau recriwtio parhaus.  Wrth gydnabod effaith yr oedi hwn, roedd cydweithwyr Archwilio Cymru yn ymgysylltu â’r tîm Cyllid i nodi meysydd ar gyfer profi sampl cynnar ac roeddent wedi ymrwymo i ddychwelyd fesul cam i’r terfyn amser cynharach dros y ddwy i dair blynedd nesaf.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon ynghylch risgiau sy'n gysylltiedig â'r llithriad yn yr amserlen archwilio ariannol o ran adnoddau swyddogion a'r effaith bosibl ar osod cyllideb ar gyfer 2024/25, yn enwedig o ystyried y cynnydd yn y ffi archwilio.  Ategwyd ei bryderon gan y Cynghorydd Bernie Attridge.

 

Cyfeiriodd Mike Whiteley at effaith y safon archwilio ddiwygiedig ISA 315 ar y dull archwilio ariannol a’r disgwyliad i’r archwiliad o ddatganiadau ariannol 2023-24 gael ei gynnal yn gynharach nag eleni.  Rhoddwyd gwybodaeth i'r Cynghorydd Attridge am y prosiect lleol ar Wasanaethau Cynllunio lle'r oedd gwaith tebyg mewn cynghorau eraill wedi helpu i nodi gwelliannau i'r gwasanaethau a ddarperir.

 

Soniodd y Cadeirydd am amseroldeb yr adolygiad thematig ar gynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol ledled Cymru, o ystyried y ffocws cynyddol yn y cyfryngau ar gynghorau ar draws y DU.  Dywedodd Carwyn Rees fod y gwaith yn y camau cychwynnol ac y bwriedir rhannu’r canfyddiadau erbyn Mehefin 2024.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst a fyddai’r adolygiad thematig ar gomisiynu a rheoli contractau yn edrych ar effeithiolrwydd rheoli gwrthdaro buddiannau posibl i sicrhau bod y Cyngor yn cael gwerth am arian.  Nid oedd Carwyn Rees yn gallu cadarnhau’r pwynt penodol hwn gan nad oedd y gwaith cwmpasu wedi’i gwblhau eto, fodd bynnag byddai’r adolygiad yn canolbwyntio ar drefniadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau contract gan ystyried cyflawni gwerth am arian.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Sally Ellis ar drefniadau gwerth am arian fel rhan o waith sicrwydd ac asesu risg, esboniodd Carwyn Rees y dull o nodi meysydd ffocws.  Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y byddai adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn, yn dilyn ystyriaeth gan y Cabinet a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yn unol â'r protocol adrodd.

 

Nododd Mike Whiteley y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor ynghylch yr amserlen archwilio ariannol ddiwygiedig a byddai'n trosglwyddo'r rhain yn ôl i'w gydweithwyr yn unol â chais y Cadeirydd.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge a Brian Harvey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Cynllun Archwilio Manwl 2023 - Cyngor Sir y Fflint Archwilio Cymru.