Mater - cyfarfodydd
Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint
Cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 34)
34 Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint PDF 104 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad yn rhoi’r diweddariad blynyddol am brosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint sy’n galluogi’r awdurdod lleol i adnabod eu blaenoriaethau ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol fel rhan o fframwaith Grant LlC. Mae’r prosbectws hefyd yn rhoi crynodeb glir a chryno o’r angen a’r galw am dai.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Proposed Flintshire Housing Need Prospectus, eitem 34 PDF 418 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Prosbectws Anghenion Tai Sir y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyflawni’r Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y Prosbectws Anghenion Tai drafft a ddiweddarwyd.
Roedd Llywodraeth Cymru angen i bob Awdurdod Lleol ddatblygu Prosbectws Anghenion Tai i’w ddiweddaru yn flynyddol. Nid oedd fformat a chyswllt y prosbectws wedi newid yn sylweddol i addasu’r cyfeiriad teithio a nodwyd yn y prosbectws y llynedd. Roedd y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am dai cymdeithasol o’r gofrestr tai a dyletswyddau tai, gan gynnwys galw sylweddol am lety dros dro, oedd yn effeithio ar y tîm atal digartrefedd a chyllideb refeniw y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol y byddai’r prosbectws yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gymeradwyo’r Cynllun Datblygu/Darparu Rhaglen a sicrhau bod cynlluniau yn cwrdd ag anghenion a blaenoriaethau a nodwyd, gan gynnwys cynnydd tuag at gwrdd â’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Strategaeth Tai Lleol 2019-24.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at safle Depo Canton ym Magillt a gofynnodd a fyddai’r datblygiad bwriedig ar y safle hwn yn digwydd. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llunio ail-ddynodi mapio llifogydd nifer o flynyddoedd yn ôl oedd yn rhoi dynodiad i’r safle na fyddai’n bosibl ei ddatblygu. Roedd gweithrediad ffurfiol y mapio llifogydd wedi’i wthio yn ôl, felly yn y cyfamser, roedd y Cyngor wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr i gynnal gwaith ymarferoldeb i ddarparu tystiolaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru bod y dynodiad yn anghywir a’i fod yn dechnegol amhosibl i oresgyn y materion llifogydd ar y safle. Roedd gwaith yn parhau ar asesu pa un a ellir goresgyn y materion yn dechnegol er mwyn dwyn cais ymlaen.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cadeirydd am gost ar gyfer defnyddio ymgynghorwyr, dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y cynnig mewn dull fesul cam felly os byddent yn dangos nad oedd yn dechnegol bosibl i symud ymlaen i ddatblygu’r safle yn y Depo Canton neu y byddai’n rhy gostus, yna gall y Cyngor roi’r gorau i ymgysylltu â’r ymgynghorwyr cyn symud ymlaen.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Linda Thew at y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) yn cael ei hailagor a Llywodraeth Cymru yn gwahodd cais am arian. Gofynnodd faint oedd y Cyngor wedi ymgeisio amdano. Dywedodd y Rheolwr Rhaglen Tai a Chyflenwi Strategol fod y Cyngor wedi ymgeisio am dros £2 filiwn i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ar draws y Sir a mwy na £3miliwn i gaffael anheddau gwag neu i gaffael cartrefi ble roedd gan y landlord denantiaid cyfredol y byddai gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu t? iddynt, ond gallent aros yn yr eiddo. Roedd y Cyngor wedi ymgeisio am ychydig o dan £10miliwn o gyfanswm mewn cyllid o’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, ond roedd y dyraniad dangosol yn £1.6miliwn. Y flaenoriaeth oedd dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chaffael cyn eiddo hawl i brynu. Byddai gwybodaeth bellach ar y dyraniad terfynol ar gael o 30 Medi 2023.
Gofynnodd ... view the full Cofnodion text for item 34