Mater - cyfarfodydd
System Tribiwnlys Newydd i Gymru
Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (eitem 50)
50 System Tribiwnlys Newydd i Gymru PDF 78 KB
Pwrpas: Ystyried a chymeradwyo ymateb Cyngor Sir y Fflint i Bapur Gwyn: System Tribiwnlys Newydd i Gymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for A New Tribunal System for Wales, eitem 50 PDF 61 KB
- Gweddarllediad ar gyfer System Tribiwnlys Newydd i Gymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi papur gwyn ar ddiwygiadau arfaethedig i’r tribiwnlysoedd datganoledig i greu system dribiwnlysoedd unedig yn cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.
Roedd y tribiwnlysoedd datganoledig wedi datblygu bob yn dipyn dros y blynyddoedd
dros y cyfnodau cyn ac ar ôl datganoli. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddiwygiadau i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru i greu system unedig.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y cynnig i greu apeliadau derbyniadau i ysgolion yn gosod risg ar y sefydliad mewn cyfnod lle’r oedd yna eisoes bwysau sylweddol ar y gyllideb a’r ymateb i hynny fyddai bod yn gryf a datgan, oni bai bod Llywodraeth Cymru’n ariannu’r gwaith o ymdrin ag apeliadau mewn perthynas ag addysgu, na ddylid symud ymlaen â’r rhan honno o’r cynnig.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad.