Mater - cyfarfodydd

063093 - Reserved Matters - Application for approval of reserved matters following outline approval 053325 at Ruthin Road, Gwernymynydd, Mold

Cyfarfod: 25/10/2023 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 30)

30 063093 - C - Materion a gedwir yn ôl - Cais ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl, yn dilyn caniatâd amlinellol Cyf; 053325 yn 1 Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd pdf icon PDF 113 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag argymhelliad y swyddog, rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad a’i ddiwygio fel a ganlyn:

 

Amod 8 i nodi:

Cyn datblygu, bydd cynlluniau cychwynnol yn dangos lefelau topograffeg ac adrannau hydredol y safle, yn ogystal â manylion unrhyw strwythurau sydd eu hangen, yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo. 

 

Ar ôl eu cymeradwyo, bydd yn rhaid i'r datblygiad gael ei wneud yn unol â'r manylion a gymeradwyir.

 

Amod 9 i nodi:

Er gwaethaf y manylion a gymeradwyir drwy hyn, bydd cynllun goleuadau allanol yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo’n ysgrifenedig cyn y bydd unrhyw un yn meddiannu’r anheddau.  Ar ôl derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig, bydd yn rhaid i unrhyw oleuadau allanol gydymffurfio â’r manylion cymeradwy.