Mater - cyfarfodydd

School Reserve Balances year ending 31 March 2023

Cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 24)

24 Adroddiad Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg 2022-23 pdf icon PDF 168 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth 22-23 a Chanlyniadau Dysgwyr ar gyfer 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a diolchodd y Rheolwr Cyllid Strategol am y gwaith a wnaed yn dod â’r adroddiad at ei gilydd a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Fforwm Cyllideb yr Ysgol.  Roedd yr adroddiad wedi cael ei rannu gyda phob Pennaeth hefyd.

 

            Cyn cyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at dabl 3 yn yr adroddiad a dywedodd fod fersiwn diwygiedig wedi cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor cyn y cyfarfod.  Roedd yr adroddiad yma wedi cael ei ymestyn i gynnwys chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol i roi amlinelliad o’r sefyllfa bresennol mewn ysgolion a thynnodd y Rheolwr Cyllid Strategol sylw at y gostyngiad mewn cyllid o 3% ar ben y cynnydd mewn chwyddiant i ysgolion yn y flwyddyn ariannol bresennol.  Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn amlinellu’r sefyllfa o ran y cronfeydd wrth gefn ac roedd Tabl 1 yn amlygu’r cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23 o’i gymharu â 2021/22.  Rhoddwyd gwybodaeth am yr effeithiau ar gyllidebau ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, gyda gostyngiad o £12.5miliwn i £7miliwn, ac roedd yr atodiad yn tynnu sylw at y canrannau ar sail ysgol wrth ysgol.

 

            Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Strategol at Dabl 2 oedd yn amlygu sut roedd y cronfeydd wrth gefn wedi symud dros y 5 mlynedd ariannol ddiwethaf.  Roedd yna bryderon o ran cadernid y sector uwchradd wrth reoli amgylchiadau annisgwyl, megis absenoldeb hir dymor a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar lefel y cronfeydd wrth gefn sydd ar gael.  Rhoddodd yr adroddiad ddadansoddiad hefyd ar gyfer y sector cynradd, roedd gan chwe ysgol gynradd gronfeydd wrth gefn negatif ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, roedd tri o’r rhain yn gymharol fach, ond roedd y tri arall yn sylweddol.

 

            Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Strategol fod pob ysgol wedi cyflwyno eu cynlluniau cyllideb 2023/24 oedd yn amlygu cynnydd mewn ceisiadau am gefnogaeth gan y Tîm Cyllid, cydweithwyr AD a chydweithwyr mewn Gwella Ysgolion.  Bu yna lefelau uwch o ddiswyddiadau gwirfoddol, ac roedd y wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn Nhabl 5 yr adroddiad.  Byddai’r Cyfrifiad Gweithlu Blynyddol a fyddai’n cael ei gynnal ym mis Tachwedd yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol, ond teimlwyd nad oedd y sefyllfa o ran diswyddo drosodd eto gan fod ysgolion yn defnyddio eu cronfeydd wrth gefn i reoli eleni gyda risgiau yn 2023/24 neu 2024/25. Roedd Tabl 6 yn yr adroddiad yn rhoi amcangyfrif o’r sefyllfaoedd ym mhob ysgol a rhoddwyd trosolwg o’r wybodaeth a ragwelir o’i gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf.

 

            Dywedodd y Cadeirydd fod yr amseroedd heriol yn parhau gyda gostyngiadau cyffredinol yng nghronfeydd wrth gefn ysgolion a theimlwyd bod yr adroddiad yn amlygu’r sefyllfa gydag ysgolion yn glir.  Diolchodd i Benaethiaid a chyrff llywodraethu am eu gwaith yn ceisio lleihau costau, ac roedd hi’n llwyr ddeall eu rhesymau dros siarad gyda’r Cyngor a GwE i gael help a chymorth.

 

            Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey am glustnodi cyllidebau ysgolion, fe eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol  ...  view the full Cofnodion text for item 24