Mater - cyfarfodydd
Wales Pension Partnership
Cyfarfod: 30/08/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 76)
Partneriaeth Pensiwn Cymru
Derbyn y meini prawf gwerthuso ar gyfer caffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru i’w gymeradwyo, a darparu eitemau preifat ar y rhaglen gan Gyd-bwyllgor Llywodraethu PPC ac unrhyw faterion eraill sy’n gysylltiedig â chronfeydd preifat.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Restricted enclosure 3
- Restricted enclosure 4
- Restricted enclosure 5
- Restricted enclosure 6
- Gweddarllediad ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru
Cofnodion:
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (HAWL I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod yn rhinwedd paragraff(au) 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Cyflwynwyd a thrafodwyd yr eitem hon ar y rhaglen.
PENDERFYNWYD:
a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso ar gyfer ymarfer caffael gweithredwr PPC yn 75% ansawdd a 25% pris.
b) Nododd y Pwyllgor fod PPC yn adrodd ar fenthyca stoc ac ymgysylltiad, a chytunwyd y dylid cylchredeg hyn i’r Pwyllgor cyn cyfarfodydd, ond na ddylid ei gynnwys ar raglenni.
c) Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar eu hymateb i adolygiad themâu stiwardiaeth PPC.