Mater - cyfarfodydd

Responsible Investment Policy within the Investment Strategy Statement

Cyfarfod: 30/08/2023 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 70)

70 Polisi Buddsoddi Cyfrifol o fewn y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi pdf icon PDF 117 KB

Darparu’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol diwygiedig i Aelodau’r Pwyllgor yn cynnwys y polisi gwaharddiadau newydd ar gyfer ymgynghori.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Eglurodd y Cadeirydd fod gan y Gronfa nifer o sesiynau hyfforddiant ar y pwnc yma, a bod geiriad arfaethedig y buddsoddiad cyfrifol wedi’i gylchredeg cyn y cyfarfod yn barod at ei gyflwyno i’r Pwyllgor ei gymeradwyo.

 

            Aeth Mr Turner drwy adran Buddsoddiad Cyfrifol y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi gan amlygu meysydd allweddol o newid.

-       Y newid mawr cyntaf yw sefydlu fframwaith chwe cham clir i asesu addasrwydd ac effaith bosibl unrhyw waharddiad a ystyrir gan y Pwyllgor, ar dudalen 227 y pecyn.

-       Ar dudalen 330 mae newidiadau wedi’u gwneud i eiriad targed 4, sef mynd i’r afael â mandadau cynaliadwy erbyn 2030 o fewn y portffolio ecwiti a restrir. Mae’r targed wedi’i newid o 30% i 100% erbyn 2030, gan adlewyrchu’r ffaith bod y Gronfa wedi newid i is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy PPC. Bydd y targed hwn yn gofyn i PPC/Russell ymchwilio i bosibilrwydd o is-gronfa marchnadoedd newydd cynaliadwy. Os nad yw hyn yn ymarferol, byddai’r Gronfa o bosibl yn ystyried newid y buddsoddiadau hyn i is-gronfa Ecwiti Cynaliadwy sy’n bodoli’n barod.

 

            Mae adborth ar y geiriad arfaethedig wedi’i dderbyn gan Mr Hibbert a’r Cyng. Swash cyn y cyfarfod.

-       O ran y paragraff olaf ar dudalen 330 ac ar dudalen gyntaf tudalen 331, roedd y Cyng. Swash wedi gofyn a yw hyn yn ddigon cryf mewn perthynas â rhoi’r gorau i fuddsoddi yn y diwydiant tanwyddau ffosil – mae Pennaeth y Gronfa wedi darparu ymateb. Eglurodd Mr Turner fod hyn wedi’i ystyried ond cynigir bod y Gronfa yn cadw’r geiriad presennol sy’n seiliedig ar ddiffiniad yr IIGCC (Institutional Investors Group on Climate Change) o gwmnïau tanwydd ffosil sy’n fwy cynhwysfawr ac sy’n dal cwmnïau drud ar garbon ar draws pob sector, yn cynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu a chludiant.

-       Roedd y Cyng. Swash hefyd wedi awgrymu tynnu rhywfaint o’r geiriad yn y polisi gwaharddiadau, ac mae’r newid yma wedi’i wneud.

-       Roedd Mr Hibbert wedi awgrymu geiriad ychwanegol o ran gweithredu i waredu cwmnïau yr ystyrir bod yr ymgysylltu yn aneffeithiol. Yn seiliedig ar yr adborth yma mae’r geiriad drafft wedi’i ddiweddaru gan gydnabod y cydbwysedd rhwng dyheadau’r Pwyllgor ac ymarferoldeb gwaredu mewn cysylltiad â’r trafodaethau parhaus mewn perthynas â phroses uwchgyfeirio PPC.

 

            Dywedodd Mr Hibbert ei fod yn cymeradwyo’r geiriad.

            Aeth Mr Turner drwy’r Polisi Eithriadau arfaethedig yn y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi. Dywedodd fod datganiad y Bwrdd Pensiynau Lleol o gymeradwyaeth ar gyfer y broses a’u cefnogaeth ar gyfer dull buddsoddi sy’n alinio a Paris, yn briodol. Cadarnhaodd y byddai newid arfaethedig y Bwrdd i’r polisi eithriadau yn cael ei wneud. Eglurodd mai prif amcan y rhan hon o’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi oedd egluro dyheadau’r Pwyllgor ar gyfer eithrio, a sut mae’r rhain yn cael eu cydbwyso yn erbyn yr heriau gweithredu a’r ymgysylltiad parhaus a fydd ei angen gyda PPC.

            Gan gyfeirio at y targedau allweddol yn y portffolio Ecwiti a Restrir ar dudalen 330, holodd y Cyng. Swash a yw’r nod “targedu holl bortffolio Ecwiti a Restrir i gael ei fuddsoddi mewn mandadau cynaliadwy erbyn 2030” yn  ...  view the full Cofnodion text for item 70