Mater - cyfarfodydd

Review of Winter Maintenance

Cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 26)

26 Adolygu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf pdf icon PDF 125 KB

Ceisio argymhelliad Craffu ar gyfer cymeradwyo’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig sy’n cynnwys manylion ymateb y Cyngor yn ystod digwyddiadau tywydd anffafriol eraill mewn argyfwng.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer y Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf diwygiedig, sy’n cynnwys manylion ymateb y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd garw brys.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gofynnodd i Reolwr y Rhwydwaith Priffyrdd gyflwyno’r adroddiad a oedd yn amlinellu’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf cyfredol (Atodiad 1), y gofynion deddfwriaethol wrth ddarparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau a gymerir gan y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth i gefnogi gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y sir i achosion eraill o dywydd gwael megis glaw trwm a gwyntoedd cryfion.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Roy Wakelam at adran 3.3.1 y Polisi yngl?n â deunyddiau dad-rewi sy’n awgrymu bod y contract graeanu wedi dod i ben. Dywedodd Reolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod yna wall yn y Polisi ac y byddai’n rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ddyddiadau’r contract newydd. Ychwanegodd fod y contract yn cael ei drafod yn genedlaethol.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Mike Peers at y ddyletswydd i sicrhau, cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol, nad yw teithio'n ddiogel ar hyd priffordd yn cael ei beryglu gan eira neu rew(Deddf Priffyrdd 1980, Adran A1), a thynnodd sylw pawb at ffordd a aeth yn rhewllyd oherwydd d?r wyneb. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a phryderon pellach gan y Cyng. Peers ynghylch biniau gaean, gorsafoedd tywydd, trefn blaenoriaethu ffyrdd, a chontractwyr amaethyddol. Eglurodd y Prif Swyddog sut y defnyddir rhagolygon gorsafoedd tywydd, a sut caiff llwybrau pwysig a strategol eu blaenoriaethu.

 

Ymatebodd y swyddogion hefyd i gwestiynau’r Cyng. Richard Lloyd mewn perthynas â dyrannu biniau graean, dosbarthu bagiau tywod i ardaloedd gyda pherygl llifogydd, a recriwtio gyrwyr.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiwn gan y Cadeirydd ar effaith ddisgwyliedig terfyn cyflymder newydd Llywodraeth Cymru o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar draws Cymru ar ddarpariaeth y gwasanaeth.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghr. Mike Peers a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

a)         Nodi’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf diwygiedig fel y’i cyflwynir yn yr adroddiad hwn ac sydd ynghlwm wrth Atodiad 1;

(b)       Nodi ymateb y portffolio i’r tywydd garw a gafwyd yn ystod 2022-2023;

 

(c)        Cefnogi’r angen parhaus i gynnal y gyllideb refeniw fel y mae ynghyd â gwerth £250,000 o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi;

 

(d)       Cyflwyno adroddiad arall i’r Pwyllgor yn 2024 yn dilyn adolygiad y

darparwr rhagolygon tywydd o dymor 2023-2024 mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynghylch triniaethau lleoliadau penodol.