Mater - cyfarfodydd

Renewal of Public Space Protection Orders – Alcohol and Dog Control

Cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet (eitem 66)

66 Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus – Alcohol a Rheoli Cwn pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Penderfynu ynghylch adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ymwneud â rheoli c?n ac alcohol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ymyrraeth i atal unigolion, neu grwpiau, rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.  Roeddent yn rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

 

Gan ddod i rym ar 19 Hydref 2017, cymeradwyodd y Cabinet

Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli c?n yn dilyn cyfnod ymgynghorol a gofynion eraill dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Roedd

y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion c?n:

 

1. Waredu gwastraff eu c?n o bob man cyhoeddus o fewn Sir y Fflint

2. Mynd â modd o godi gwastraff eu c?n i fyny gyda nhw

3. Rhoi eu ci ar dennyn pan fo swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt pan fo’r ci

yn achosi niwsans

4. Gwahardd c?n rhag mynd ar ardaloedd chwarae caeau chwaraeon cyhoeddus wedi eu marcio,

ardaloedd hamdden ffurfiol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i lawntiau bowlio

a chyrtiau tennis, ardaloedd chwarae gydag offer i blant gyda ffensys o’u cwmpas a phob

ardal ar diroedd ysgolion

5. Cadw eu c?n ar dennyn mewn mynwentydd.

 

O dan ddarpariaethau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014,

roedd Gorchymyn Man Cyhoeddus Dynodedig Sir y Fflint ar gyfer Alcohol yn newid yn awtomatig i

Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar yr un dyddiad.  Roedd y gorchymyn hwn yn rhoi p?er i Swyddogion yr Heddlu ofyn i aelodau o’r cyhoedd ildio alcohol os oeddent yn credu bod aelod o’r cyhoedd

yn achosi niwsans mewn man cyhoeddus. Nid oedd hyn yn waharddiad alcohol llwyr

mewn ardal gyhoeddus, ac nid oedd hyn yn berthnasol i eiddo trwyddedig, ond yn annog

yfed yn gall.

 

Adnewyddwyd y ddau Orchymyn yn 2020 ac roedd y ddau bellach angen eu hadolygu a’u hadnewyddu neu byddent yn dod i ben ar 29 Hydref 2023.

 

Gallai unrhyw awdurdod lleol sy’n gwneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ymestyn y cyfnod gweithredol cyn belled â’i fod yn fodlon, ar sail resymegol, bod angen gwneud hynny i atal y gweithgareddau a nodwyd yn y gorchymyn rhag digwydd neu ailddigwydd, neu gynnydd yn amlder neu ddifrifoldeb y gweithgareddau hynny, ar ôl y cyfnod hwnnw.

 

Yn ogystal â hynny, mae Cyngor Tref yr Wyddgrug a Chlwb Pysgota Cei Connah a’r Cylch wedi gofyn i’r Cyngor ddiwygio’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus Rheoli C?n i wahardd c?n o Erddi Coffa yr Wyddgrug, Maes Bodlonfa, yr Wyddgrug,

a The Rosie, Parc Gwepra, Cei Connah.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y gwaharddiadau cyfredol a’r amrywiadau arfaethedig yn unol â’r gofynion cyfreithiol am 5 wythnos rhwng 5 Mehefin ac 14 Gorffennaf 2023.  Derbyniwyd cyfanswm o 881 ymateb.  Roedd cefnogaeth gref i adnewyddu’r ddau

Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys yr amrywiadau a geisiwyd.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) eu bod wedi derbyn deiseb mewn perthynas â gerddi coffa’r Wyddgrug ac er bod yr awdurdod wedi ei chydnabod, roedd prosesau llym yn golygu nad  ...  view the full Cofnodion text for item 66