Mater - cyfarfodydd
Rheoli Eiddo Gwag
Cyfarfod: 13/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 35)
35 Rheoli Eiddo Gwag PDF 174 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar Eiddo Gwag a’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu dechrau defnyddio eiddo o’r fath unwaith eto.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Asedau Tai y ffigyrau allweddol a’r gweithgareddau allweddol yn ôl y cynllun gweithredu ar gartrefi gwag, fel yr amlinellir yn y nodyn briffio.
Amlinellodd nifer y tai gwag newydd a'r rhai oedd wedi'u cwblhau a dywedodd fod 33 eiddo wedi'u cwblhau yn barod i'w dyrannu. Hefyd, amlinellodd y canlynol, fel y cyflwynwyd yn y nodyn briffio:-
· Y nifer o eiddo gwag mawr
· Cyfanswm y nifer o eiddo gwag cyffredinol oedd wedi gostwng i 234
· Perfformiad y contractwyr presennol
· Prif resymau dros derfynu
Dywedodd y Cadeirydd am adborth cadarnhaol a ddarparwyd ar gyflwr yr eiddo gwag a ddychwelwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester am yr eiddo galw uchel ac isel a amlinellwyd yn y nodyn briffio a gofynnodd pam bod eiddo heb lawer o alw yn cael eu dychwelyd yn gynt. Dywedodd am yr eiddo 1 ystafell wely a theimlodd y dylent gael eu dychwelyd yn gynt i gynorthwyo gyda’r pwysau ar y gyllideb digartrefedd ac roedd hefyd yn bryderus na fu unrhyw welliant yn y nifer o dai gwag o fewn ardal Glannau Dyfrdwy o’i gymharu ag ardaloedd eraill ar draws y Sir. Roedd hefyd yn bryderus am y nifer uchel o eiddo gwag mawr o ystyried y gwaith a wneir fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru a gofynnodd pam bod cymaint o eiddo angen gwelliannau mawr.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y cyfanswm ffigyrau ble roedd y nifer o eiddo ar hyn o bryd ac nad oeddent yn angenrheidiol yr un eiddo a dywedodd ei fod yn hapus i ddarparu mwy o wybodaeth ar ddadansoddiad o’r ffigyrau i’r Cynghorydd Selvester yn dilyn y cyfarfod. Mewn perthynas â chyflwr gwael rhai eiddo, dywedodd fod y tîm yn gweithio’n agos gyda’r rheolwyr tai a’u bod yn cynnal 100% o ymweliadau cyn-terfynu i gadarnhau cyflwr yr eiddo. Yn anffodus, nid oedd y gwaith WHQS wedi cynnwys gwaith plastro oedd yn waith mawr oedd yn ofynnol ar yr eiddo gwag.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Selvester yngl?n â faint o eiddo gwag oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis, oedd yn golygu cost Treth y Cyngor i’r Cyngor, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth i siarad gyda’r Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael a rhoi ymateb yn dilyn y cyfarfod.
Gofynnodd y Cadeirydd pwy oedd yn penderfynu a oedd eiddo â galw mawr neu alw isel. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth fod eiddo yn cael ei ystyried fel galw mawr ble roedd yna eisoes ddyraniad ar gyfer tenant. Roedd eiddo yn cael ei ystyried â galw isel os nad oedd yna denant wedi’i ddyrannu a allai fod oherwydd materion mynediad. Unwaith bod tenant wedi’i ddyrannu neu welliannau wedi eu gwneud o ran hygyrchedd, byddai’r eiddo yn cael ei symud i gael ei ystyried â galw uchel.
Roedd y Cynghorydd David Evans yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Selvester o amgylch y nifer o eiddo fesul ardal dosbarth ac er yn cydnabod yr ymateb a roddwyd gan y Rheolwr Gwasanaeth, roedd yn teimlo ... view the full Cofnodion text for item 35