Mater - cyfarfodydd
Cyflwyno adroddiad hunanwerthuso blynyddol Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint
Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (eitem 48)
48 Cyflwyno adroddiad hunanwerthuso blynyddol Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint PDF 100 KB
Pwrpas: Mae’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn hunanwerthuso’i wasanaethau addysg bob blwyddyn er mwyn rhoi sicrwydd i’r aelodau bod safonau addysg yn Sir yn Fflint yn dda a bod anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu. Cynhyrchir yr adroddiad yn unol â Fframwaith Arolygu Estyn ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for To present the annual self-evaluation report of Education Services in Flintshire., eitem 48 PDF 2 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Cyflwyno adroddiad hunanwerthuso blynyddol Gwasanaethau Addysg Sir y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad ac eglurodd fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol trwyadl o'i berfformiad a'i wasanaethau i roi sicrwydd i'r Cyngor ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint.
Nododd yr adroddiad gryfderau a meysydd i’w gwella ymhellach ac adlewyrchwyd y meysydd hynny i’w gwella wedyn yng Nghynllun Gwella’r Cyngor a Chynllun Busnes y Portffolio ei hun.
Yn dilyn ailgyflwyno’r holl weithgarwch arolygu gan Estyn o fis Ebrill 2022 ymlaen, roedd adroddiad gwerthuso’r Portffolio eleni yn adrodd yn erbyn fframwaith Estyn ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol. Roedd yr adroddiad wedi'i strwythuro i roi sicrwydd i'r Cyngor ar draws y tri maes arolygu, sef:
- Canlyniadau
- Ansawdd y Gwasanaethau Addysg (yn cynnwys Gwasanaethau Ieuenctid)
- Arweinyddiaeth a Rheoli
Cafodd yr holl feysydd arolygu eu gwerthuso’n fanwl ar gyfer y cyfnod 2022-2023 ac roedd pob un yn dod i ben gyda chasgliad o feysydd pellach a nodwyd ar gyfer gwelliant i sicrhau darpariaeth barhaus o wasanaethau addysg o safon i drigolion Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb o gynnydd yn erbyn y pedwar argymhelliad o arolwg Estyn o Wasanaethau Addysg Sir y Fflint yn 2019.
Casgliad cyffredinol yr adroddiad hunanwerthuso oedd bod gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint yn gadarn, yn cefnogi plant a phobl ifanc yn effeithiol ac yn cynnig gwerth da am arian.
Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yr wythnos flaenorol lle cafodd ei groesawu a’i gefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn canlyniad adroddiad hunanwerthuso blynyddol y Portffolio Addysg ar ansawdd gwasanaethau addysg ar gyfer cyfnod 2022-23;
(b) Cyflwyno unrhyw sylwadau i'r Tîm Portffolio.