Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 07/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 33)
33 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC), eitem 33 PDF 58 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC), eitem 33 PDF 47 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol ac Olrhain Camau Gweithredu fel y nodwyd yn yr adroddiad a dywedodd wrth Aelodau bod y cwestiynau yr oeddent wedi’u hawgrymu wedi cael eu hanfon ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) er mwyn eu hystyried cyn y cyfarfod ym mis Ionawr. Gwahoddodd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw eitemau eraill i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Awgrymodd y Cynghorydd Bateman y dylai rheolwr hefyd fod yn bresennol yn y cyfarfod ym mis Ionawr i egluro ac o bosib i ddangos ‘E-Ymgynghoriad’. Ychwanegodd nad oedd ymgynghoriadau dros yn ffôn yn addas i bawb a dywedodd y gellid sylwi ar bethau eraill wyneb yn wyneb yn hytrach na dros y ffôn. Cytunodd y Cynghorydd Maddison gyda hyn gan ychwanegu bod llawer iawn o bobl h?n heb fynediad at gyfrifiaduron / y rhyngrwyd / ffonau symudol. Roedd yn ystyried bod E-Ymgynghoriad yn gwahaniaethu ar sail oedran ac roedd eisiau i BIPBC roi sicrwydd i Aelodau y gallai pobl h?n, nad oedd ar-lein, gael ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod ‘E-Ymgynghoriad’ ar y rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i BIPBC yng nghyfarfod mis Ionawr ac y byddai’n anfon y sylwadau ychwanegol at BIPBC, fodd bynnag ni allai orchymyn bod un yn mynychu.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill i gael cynnwys y cynnydd a oedd wedi cael ei wneud yn sefydliadau preswyl y Cyngor pan yr oedd y Lleoliadau Tu Allan i’r Sir yn cael eu hadolygu. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) a dywedodd y byddent yn gwneud hynny pan oedd yr eitem yn cael ei hystyried yn y cyfarfod ar y cyd ym mis Mehefin 2024.
Mynegodd y Cynghorydd Ellis bryderon nad oedd pobl yn wardiau ochr yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn cael bwyd a diod, weithiau am ddyddiau, ac roedd eisiau codi’r mater gyda BIPBC yn y cyfarfod ym mis Ionawr a dywedodd y Cadeirydd y byddai hyn yn cael ei nodi.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at Olrhain Camau Gweithredu a dywedodd fod rhai o’r eitemau yn dal i fynd rhagddynt ac y byddai’n ymateb i Aelodau pan yr oedd ganddi fwy o wybodaeth. Cadarnhaodd bod Lleoliadau Tu Allan i’r Sir wedi cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ystyried hyn yn y cyfarfod ar y cyd ar 27 Mehefin ac y byddai’r sylw blaenorol a wnaed gan y Cynghorydd McGuill yn cael ei drafod.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Debbie Owen.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod
i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y
Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng
cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.