Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 26/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 27)
27 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC), eitem 27 PDF 72 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (S&HC OSC), eitem 27 PDF 46 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y rhaglen waith gyfredol gan ddweud y bu anawsterau o ran trefnu dyddiad ar gyfer y cyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bod cyfarfod ym mis Ionawr yn awr yn cael ei ystyried ac y byddai’n cael ei gadarnhau’n fuan. Yn ychwanegol at yr eitemau eraill ar 7 Rhagfyr byddai hefyd fideo gan Double Click i roi diweddariad i’r aelodau. Dywedodd bod adroddiad ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi’i restru’n amodol fel eitem ar gyfer y cyfarfod ar 6 Mehefin yn dilyn cais gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Opsiwn arall, yn ôl disgresiwn y Pwyllgor, fyddai cyflwyno’r adroddiad i’r cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor sydd i’w gynnal ar 27 Mehefin.
Dywedodd y Cynghorydd Mackie, oherwydd bod y ddau gyfarfod yn cael eu cynnal ym mis Mehefin, y byddai’n briodol i’r eitem fynd gerbron y cyd-gyfarfod ar 27 Mehefin. Cytunodd yr hwylusydd y byddai hyn yn cael ei ychwanegu at raglen y Cyd-bwyllgor.
Dywedodd yr Hwylusydd bod y gweithdy sydd i’w gynnal yng Nghanolfan Westwood yn debygol o gael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr ynghyd ag adroddodd ar y camau gweithredu a olrheiniwyd fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Debbie Owen.
PENDERFYNWYD:
(a)
Cymeradwyo’r Rhaglen
Waith;
(b)
Rhoi awdurdod i’r
Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor,
amrywio’r Rhaglen Waith yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu nad ydynt wedi’u cwblhau eto.