Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu

Cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 20)

20 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol fel y nodir yn yr adroddiad. Fe ychwanegodd bod trefniadau yn cael eu gwneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i fynychu’r cyfarfod ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Dywedodd ei bod wedi derbyn rhai ymatebion da gan Aelodau mewn perthynas â’r eitemau roeddent eisiau eu trafod yn y cyfarfod hwnnw. Cynghorwyd yr Aelodau bod y gweithdy i’w gynnal yng Nghanolfan Westwood, Bwcle yn cael ei ddatblygu.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bateman os oedd yr eitem yr oedd wedi’i hawgrymu ar E-ymgynghoriadau mewn Meddygfeydd am gael ei thrafod yng nghyfarfod BIPBC. Cytunodd yr Hwylusydd y byddai’r eitem yn cael ei chynnwys ar y rhestr. Cadarnhaodd yr eitemau a oedd wedi’u derbyn hyd yma, sef:-

 

·         Mynediad at ofal deintyddol

·         E-ymgynghoriadau

·         Gwneud apwyntiadau gyda Meddygon Teulu

·         Y sefyllfa bresennol o ran y Bwrdd Iechyd

·         Heintiau mewn ysbytai

·         Gwrthdaro rhwng llawdriniaethau brys a dewisol

 

Mewn perthynas â’r mater a godwyd gan y Cynghorydd Bateman ar E-ymgynghoriadau, argymhellodd y Cynghorydd Ellis ei bod yn trafod unrhyw gwynion gyda Mark Isherwood AS. Diolchodd y Cynghorydd Bateman iddi am ei chyngor.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd McGuill at y rhestr o gwestiynau fel a ganlyn:-

 

·         sut yr oedd y Bwrdd Iechyd yn gweithredu E-ymgynghoriadau’r System Ysbyty yn y Cartref

·         sut yr oeddent yn dosbarthu gwybodaeth i bobl a fyddai’n elwa o’r gwasanaeth

·         cyswllt i Wasanaeth Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru er mwyn i bobl fod yn ymwybodol o sut i gael mynediad at yr offer oherwydd roedd yn anodd iawn cael mynediad ato oni bai bod cais yn cael ei wneud drwy Weithiwr Cymdeithasol

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.