Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 30/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 36)
36 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 36 PDF 77 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 36 PDF 71 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau a restrwyd ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 a chyfeiriodd at yr Adolygiad Cymheiriaid Cyfiawnder Ieuenctid a oedd wedi'i symud i gyfarfod mis Chwefror.
Gan gyfeirio at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2, cadarnhawyd bod mwyafrif y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf wedi'u cwblhau. Roedd yr adroddiad Allsirol wedi'i gynnwys ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd gyda chais am Weithdy ar Leoliadau Allsirol ar gyfer Aelodau newydd wedi'i drosglwyddo i'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. Rhoddwyd diweddariad ar y cais am adroddiad ar Gadw a Recriwtio.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) y dylid diwygio pwrpas yr eitem Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg Cymru a restrwyd ar gyfer y cyfarfod Craffu ar y Cyd ar 27 Mehefin i adlewyrchu trosolwg cyfan o Addysg cyn ac ôl-16.
Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst pam fod “Mynd i’r Afael ag Effaith Anghydraddoldeb ar Ganlyniadau Addysg” yn dal i gael ei restru fel eitem i’w hamserlennu. Cytunodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu i gymryd hyn fel cam gweithredu o'r cyfarfod i sicrhau y neilltuwyd dyddiad cyfarfod ar ei gyfer.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Mackie at ei gais yn y cyfarfod diwethaf am restr o gyrsiau dysgu proffesiynol a gynigir gan GwE ac at y ddogfen a dderbyniodd gan ddweud ei bod yn anodd ei deall. Roedd y wybodaeth yr oedd wedi gofyn amdani yn ymwneud â:-
• Pa hyfforddiant oedd yn cael ei gynnig i athrawon yn Sir y Fflint;
• Pa hyfforddiant oedd yn cael ei ddyfeisio;
• Beth oedd pwrpas yr hyfforddiant;
• Faint o bobl a ddisgwylir i ddod i’r hyfforddiant.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y wybodaeth hyfforddi a ddarparwyd gan GwE a theimlai y byddai'n ddefnyddiol cynnwys mwy o fanylion ynghylch pa gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi oedd ar gael i ysgolion. Credai y gellid cael gwell dealltwriaeth wedyn pe gellid cymharu dadansoddiad o hyfforddiant yn ysgolion Sir y Fflint â Siroedd eraill.
Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr atodiad yr oedd yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) wedi'i anfon at y Cynghorydd Mackie wedi'i ddarparu gan GwE a'i fod yn amlinellu'r holl hyfforddiant a chymorth proffesiynol a ddarperir i ysgolion Sir y Fflint. Cadarnhawyd hefyd fod cyfarfod wedi'i drefnu rhwng y Cynghorydd Mackie, yr Uwch Reolwr (Gwella Ysgolion) a Swyddogion GwE er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mackie at y cam gweithredu o'r cyfarfod diwethaf a oedd yn ymwneud ag adroddiad ar ddemograffeg a gofynnodd pam nad oedd yn dangos yn yr eitemau i'w hamserlennu. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai'r wybodaeth am effeithiau demograffeg disgyblion yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau cyllideb, fodd bynnag, pe bai angen mwy o wybodaeth ar yr Aelodau, yna gellid trefnu gweithdy. Roedd y Cynghorydd Mackie yn meddwl tybed a ellid darparu adroddiad diweddaru rheolaidd, yn debyg i'r wybodaeth a ddarparwyd ynghylch balansau ysgolion, gan ei ... view the full Cofnodion text for item 36