Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 22)
22 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
YstyriedRhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 22 PDF 77 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 22 PDF 59 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r adroddiad, fe amlinellodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr eitemau sy’n cael eu cyflwyno yn y cyfarfodydd sydd i ddod, a oedd ynghlwm yn Atodiad 1, a dywedodd y byddai eitem ychwanegol ar yr ymgynghoriad am Ddisgrifiadau o Rôl Aelodau’n cael ei chyflwyno i’r cyfarfod nesaf ar 19 Hydref 2023. Fe ddywedodd hi hefyd bod gweithdy i bob Aelod am y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi cael ei drefnu ar gyfer dechrau mis Hydref ac y byddai cadarnhad o’r dyddiadau ac amseroedd yn cael eu hanfon i Aelodau maes o law.
Gan gyfeirio at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu yn Atodiad 2, cadarnhaodd yr Hwylusydd bod cyfarfod cyntaf Gr?p Tasg a Gorffen Parcio Ysgol wedi’i drefnu ar gyfer 19 Medi er mwyn ystyried a chytuno ar Gylch Gorchwyl i’r Gr?p. Unwaith y caiff ei gytuno, bydd yn cael ei rannu gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Roedd pob cam gweithredu arall wedi’i gwblhau.
Fe awgrymodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod yr adroddiadau canlynol yn cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfod 1 Chwefror 2024:-
· Trosolwg o ganlyniadau Lefel A a TGAU yr haf ar ôl eu gwirio ym mis Rhagfyr 2023; ac
· Adolygu Strategaeth Ôl-16 - amlinellu sut yr oedd y comisiwn cenedlaethol newydd yn datblygu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y datganiad a gyhoeddwyd gan Townlynx a’r amharu posibl i ran o’r gwasanaeth bws ysgol. Er ei bod yn cydnabod eu bod bellach wedi rhoi sicrwydd i’r cyhoedd nad oedd newidiadau i’r gwasanaeth yn cael eu cyflwyno, gofynnodd am sicrwydd hefyd gan y Cyngor yngl?n â pha asesiadau risg oedd yn cael eu cynnal petai rhywbeth tebyg yn digwydd eto. Fe eglurodd y Prif Swyddog mai ei chydweithwyr yng Ngwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth oedd yn darparu cludiant ysgol felly byddai’r mater yma yn dod o dan gylch gwaith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi. Dywedodd fod y mater yma ar gofrestr risg y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ar gyfer gwasanaethau bws ysgol, a rhoddodd deyrnged i’w chydweithwyr yn y gwasanaeth a fu’n gweithio’n eithriadol o galed i ddod o hyd i ddatrysiadau cludiant amgen i 1100 o blant. Roedd hi hefyd yn falch bod y mater wedi cael ei ddatrys a bod y gwasanaeth bws wedi parhau i redeg.
O ran asesiadau risg, cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at bibell dd?r a fyrstiodd yn Ewlo, gan olygu bod yr ysgolion yn yr ardal wedi rhedeg allan o dd?r. Dywedodd ei fod yn bryderus nad oedd y cwmni d?r wedi cysylltu â’r Cyngor na’r ysgolion i roi arweiniad/gwybodaeth am y mater yma. Wrth ymateb, cytunodd y Prif Swyddog i adrodd yn ôl i’r Tîm Rheoli Argyfwng yr hyn roedd y Cynghorydd Mackie wedi’i ddweud. Fe eglurodd y Prif Weithredwr bod materion o’r natur yma’n cael eu hystyried trwy gynllunio wrth gefn a bod materion fel hyn yn cael eu trin yn lleol ... view the full Cofnodion text for item 22