Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (E&E OSC)

Cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 25)

25 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ar yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a dywedodd fod y ddau gam gweithredu a oedd yn weddill wedi’u cwblhau. Cyfeiriodd hefyd at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd wedi’u rhestru dan gyfarfodydd nesaf y Pwyllgor ar 10 Hydref ac 14 Tachwedd 2023.

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig unrhyw eitem arall yr oeddent yn dymuno ei chynnwys ar y Rhaglen. Cynigiodd y Cyng. Mike Peers y dylid cael eitem ar orfodi er mwyn ystyried materion sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi a nododd parcio, mannau cyhoeddus, rheoli c?n a baw c?n fel enghreifftiau. Cytunodd y Pwyllgor ar hyn.

 

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn amodol ar y newidiadau uchod;

(b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.