Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (C&H OSC)
Cyfarfod: 13/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 53)
53 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 53 PDF 74 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 53 PDF 58 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol ar gyfer ei hystyried, gan ychwanegu nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r eitemau a restrir.
Trafododd y camau oedd yn codi o Atodiad 2 fel a ganlyn:-
- Cafodd y llythyr drafft i Lywodraeth Cymru ei drafod gyda’r cadeirydd ar 12 Rhagfyr a byddai’n cael ei anfon allan yn ddiweddarach yn yr wythnos.
- Trafododd gam oedd yn weddill mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir. Roedd y Swyddog Cyllid wedi casglu’r wybodaeth ac roedd yn aros am gymeradwyaeth i rannu’r manylion.
Daeth i’r casgliad bod holl gamau eraill a ddangoswyd nawr wedi eu cwblhau.
Cafodd yr argymhellion, fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Geoff Collett a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.