Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (C&H OSC)

Cyfarfod: 11/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 38)

38 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried a dywedodd y cynhelid cyfarfod rhwng y Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Uwch-swyddogion yn y portffolio Tai a Chymunedau ar ôl cyfarfod y Pwyllgor, a chyflwynid fersiwn diwygiedig o’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.  Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i cyflwynwyd.

 

Wrth sôn am y camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod diwethaf, dywedodd yr Hwylusydd bod Mark Tami AS wedi derbyn ymateb oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau a rannwyd â holl Aelodau’r Pwyllgor.  Derbyniwyd gwybodaeth yngl?n â nifer y Therapyddion Iechyd Galwedigaethol hefyd, a rannwyd ag Aelodau’r Pwyllgor drwy e-bost.

 

Roedd swyddogion wrthi’n casglu gwybodaeth er mwyn ateb cwestiwn y Cynghorydd Dale Selvester yngl?n â chyfanswm y taliadau Treth y Cyngor a gollwyd oherwydd tai a fu’n wag am fwy na chwe mis, ac anfonid y wybodaeth at yr Aelodau pan oedd yn barod. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Evans dderbyn yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad ac eiliodd y Cynghorydd Kevin Rush y cynnig hwnnw.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu gofynnol.