Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Cyfarfod: 26/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 29)
29 Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru PDF 94 KB
Pwrpas: Bod Aelodau’n nodi'r gwaith a'r cynnydd yn 2022/23 ar y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for North Wales Regional Partnership Board (NWRPB) Annual Report, eitem 29 PDF 4 MB
- Enc. 2 for North Wales Regional Partnership Board (NWRPB) Annual Report, eitem 29 PDF 6 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu adroddiad yn egluro bod dyletswydd ar bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflwyno eu hadroddid blynyddol i’w Pwyllgor Craffu ac y byddai unrhyw adborth a geir heddiw’n cael ei anfon i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar eu rhan. Dywedodd bod hyn yn rhan o’r gofyniad o dan Ran 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg i bob asiantaeth partner a Llywodraeth Cymru o waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ei weithgaredd yn ystod y flwyddyn a’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dywedodd bod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ei rôl ei hun o ran rhannu cyfeiriad clir ar gyfer datblygiad gwasanaeth o safbwynt integreiddio iechyd a gofal chymdeithasol er mwyn sicrhau lles eraill.
Cyfeiriodd at bwyntiau allweddol yn adran 3 o’r adroddiad llawn a oedd wedi’i atodi i’r papurau
· Cod Ymarfer Awtistiaeth
· Cyfalaf
· Rhaglen Plant a Phobl Ifanc
· Rheolwr
· Llwybr Safonau Gofal Dementia (Cymru Gyfan)
· Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu
· Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad
· Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
· Cronfa Integreiddio Rhanbarthol.
· Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant
· Rhaglen Trawsnewid Law yn Llaw at Iechyd Meddwl
· Gweithlu
Gofynnodd y Cynghorydd Healey am faint yr oedd yn rhaid i blant aros cyn gweld ymgynghorydd yngl?n â’u hiechyd meddwl, a dywedodd hefyd ei bod yn bryderus a fyddai plant sy’n cael prydau ysgol yn cael pryd o fwyd pe baent yn cael eu hanfon adref, e.e. oherwydd llifogydd. Mewn ymateb dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu nad oedd y data wrth law ganddi ynghylch amseroedd aros am wasanaethau iechyd plant a phobl ifanc ond y byddai’n gwneud ymholiadau. Eglurodd hefyd bod darpariaeth prydau ysgol am ddim yn rhan o’r gwaith sy’n cael ei fwydo i mewn i’r adroddiad sefydlogrwydd y farchnad a bod asesiad o anghenion y boblogaeth yn ystyried niferoedd prydau ysgol am ddim hefyd, sydd yn helpu gyda chynllunio. Dywedodd bob pob Asiantaeth Partner yn gyfrifol am ei waith ei hun yn ogystal â gwaith ar y cyd a bod Sir y Fflint wedi gweithio’n galed i gefnogi unigolion sy’n dibynnu’n drwm ar y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. Dywedodd er bod nifer fawr o ysgolion wedi cau’n ddiweddar oherwydd llifogydd, y cawsant eu cau’n fwriadol ar ôl 1pm fel bod y plant yn cael cinio.
Awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y dylid holi BIPBC y y tro nesaf y bydd cyfarfod ynghylch amseroedd aros i weld ymgynghorydd i blant ag anghenion iechyd meddwl. Cyfeiriodd hefyd at adran 3.12 yr adroddiad yngl?n â’r rhaglen trawsnewid iechyd meddwl a chanmolodd y canolbwyntiau cymunedol a fu’n llwyddiannus mewn helpu pobl i gefnogi eu hunain. Roedd hefyd eisiau gwneud y pwyllgor y ymwybodol fod Sir y Fflint yn arwain ar werth cymdeithasol aa bod hyn yn dal i fod yn rhan allweddol o ymdriniaeth Sir y Fflint. Dywedodd mai’r Gr?p Rhanbarthol y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r unig un yng Nghymru sydd wedi bod ar waith ers tua 3 ... view the full Cofnodion text for item 29