Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 32)
32 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 107 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme, eitem 32 PDF 108 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme, eitem 32 PDF 55 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai diweddariad pellach ar Gyllideb 2024/25 yn cael ei gynnwys ar gyfer mis Tachwedd.
Dywedodd fod sesiwn hyfforddi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar Sgiliau Cwestiynu Craffu wedi cael ymateb da, ac fe’i cynhelid eto yn y dyfodol er mwyn rhoi cyfle i Aelodau eraill fod yn bresennol. Yn ôl cais gan y Cynghorydd Banks, byddai’n ymholi a ellid ymestyn yr hyfforddiant i Gynghorwyr Tref a Chymuned.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Rush a Marshall.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.