Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 32)

32 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai diweddariad pellach ar Gyllideb 2024/25 yn cael ei gynnwys ar gyfer mis Tachwedd.

 

Dywedodd fod sesiwn hyfforddi Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar Sgiliau Cwestiynu Craffu wedi cael ymateb da, ac fe’i cynhelid eto yn y dyfodol er mwyn rhoi cyfle i Aelodau eraill fod yn bresennol.  Yn ôl cais gan y Cynghorydd Banks, byddai’n ymholi a ellid ymestyn yr hyfforddiant i Gynghorwyr Tref a Chymuned.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Rush a Marshall.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.