Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 16/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 42)
42 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 89 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 42 PDF 112 KB
- Enc. 2 - Terms of Reference, eitem 42 PDF 55 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, sydd, yn unol â chais y Cynghorydd Sam Swash, yn cynnwys eitem ar gaffael tir ar gyfer mynwentydd Sir y Fflint gan sicrhau gwerth am arian. Bydd hefyd yn edrych i mewn i gais y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am y wybodaeth ddiweddaraf ar Ostyngiadau Treth y Cyngor yn ôl Disgresiwn / Dileu Dyledion, a fydd yn rhaid ei hystyried gan y Cabinet yn gyntaf.
Ar y sail honno, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Sam Swash.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.