Mater - cyfarfodydd

Strategic Capital Plan Prioritisation

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (eitem 43)

43 Blaenoriaethau'r Cynllun Cyfalaf Strategol pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Sicrhau bod y Cabinet yn cefnogi’r cynlluniau a flaenoriaethwyd a fydd yn cael eu datblygu gydag Achosion Busnes a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w hystyried ar gyfer cyllid Cyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Fwrdd Rhaglen Rhanbarthol Gogledd Cymru, a phob rhanbarth yng Nghymru, i ddatblygu a gweithredu Cynllun Cyfalaf Strategol. Dylai’r cynllun adlewyrchu’r olwg 10 mlynedd o anghenion buddsoddi cyfalaf arfaethedig yr isadeiledd cymunedol i ddarparu gofal cymdeithasol a gofal iechyd cynradd a chymunedol. Y cynllun oedd yr unig fecanwaith i ryddhau cyllid cyfalaf allanol i’r Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad Cynllun Cyfalaf Strategol 10 mlynedd gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â phob awdurdod lleol, timau iechyd a phartneriaid darparu gwasanaeth eraill.

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfranogiad Cyngor Sir y Fflint yn y cynllun a’i fwriad strategol, gan nodi y byddai angen ailgyflwyno prosiectau unigol i’r Cabinet er mwyn eu cymeradwyo a’u hystyried yn unol â’r Rhaglen Gyfalaf a Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.

 

Croesawodd y Cynghorydd Johnson y wybodaeth ar yr asesiad effaith a lliniaru’r risgiau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones fod yr adroddiad wedi cael ei drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr wythnos flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gofyniad am Gynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ar gyfer Gogledd Cymru a’r prosesau blaenoriaethu ac achos busnes cysylltiedig sydd eu hangen i sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru;

 

(b)       Cymeradwyo cyfranogiad yn y rhaglen ranbarthol, y prosiectau arfaethedig a bwriad strategol y cynllun.