Mater - cyfarfodydd

Strategic Capital Plan Prioritisation

Cyfarfod: 07/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 23)

23 Blaenoriaethau’r Cynllun Cyfalaf Strategol pdf icon PDF 108 KB

Sicrhau bod yr aelodau’n gefnogol i’r cynlluniau sydd wedi’u blaenoriaethu, a fydd yn cael eu cyflwyno gydag achosion busnes i Lywodraeth Cymru (LlC) i’w hystyried am gyllid cyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu wybodaeth gefndir i’r adroddiad gan nodi bod y chwe rhanbarth yng Nghymru wedi cael cais gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd i grynhoi’r datblygiad allweddol sy’n ofynnol gan bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol gyda budd-ddeiliaid allweddol eraill i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol a chymunedol, yn benodol lle fyddai angen cyllid LlC i gefnogi’r datblygiadau hynny. Roedd yn rhaid i bob rhanbarth gael Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle’r oedd arweinwyr strategol mewn gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn dod at ei gilydd i greu gwasanaeth effeithiol ar gyfer y bobl yn y rhanbarth hwnnw. Y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fyddai’n gyfrifol am oruchwylio gweithrediad y cynllun. Eglurodd fod y rhaglenni ariannu newydd wedi cael eu sefydlu a bod yr adroddiad hwn yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun 10 mlynedd a sut y byddai’n cael ei symud yn ei flaen. Trosglwyddodd yr awenau i’r Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol i egluro sut yr oeddent yn sicrhau bod y datblygiadau cyfalaf yn cyd-fynd, yn cefnogi ac yn diwallu anghenion trigolion Sir y Fflint.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen (Y Dwyrain) - Gwasanaethau Cymunedol ymddiheuriadau ar ran awdur yr adroddiad, sef Swyddog Arweiniol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn Sir y Fflint. Eglurodd fod y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol wedi disodli’r Gronfa Gofal Integredig yn 2022 a’i bod yn cynnwys elfennau o gyllid refeniw a chyllid cyfalaf. Atgoffodd yr Aelodau mai pwrpas yr adroddiad hwn oedd i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y broses newydd i ddatblygu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 Mlynedd ar gyfer datblygiadau cyfalaf a oedd yn diwallu anghenion y rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Gogledd Cymru a oedd yn seiliedig ar y cyllid o’r cronfeydd cyfalaf canlynol:-

 

·         Y Gronfa Tai â Gofal - Cyllid grant LlC ar gyfer prosiectau cyfalaf a oedd yn cynyddu’r stoc dai i ddiwallu anghenion pobl gydag anghenion gofal a chymorth.

·         Y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso - Cyllid grant LlC ar gyfer prosiectau cyfalaf a oedd yn darparu canolbwyntiau cymunedol a chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig neu’n ailgydbwyso’r farchnad ofal drwy fuddsoddi mewn lleoliadau cymunedol ac eiddo gofal preswyl.

 

Eglurodd mai nid ceisio cytundeb ar gyfer datblygiad neu gyllid cyfalaf oedd bwriad yr adroddiad ond i Aelodau gael deall y broses newydd a’r gofyniad i ddatblygu cynllun 10 mlynedd. Dywedodd fod y cynlluniau o Sir y Fflint a oedd wedi cael eu nodi i’w cynnwys yn y cynllun eisoes wedi cael eu cymeradwyo ac yn rhan o’r rhaglen asedau cyfalaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Christine Jones wrth y Cynghorydd Woolley, fel y nodwyd yn yr adroddiad, nad oedd hyn wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet ac y byddai trafodaethau heddiw yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

 

Mynegodd y Cynghorydd Mackie bryderon ac fe ofynnodd am eglurhad ynghylch y Cynllun Rhanbarthol a’i fod yn seiliedig ar Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a’r broses gymhleth yr oedd angen ei dilyn i gyflwyno Prosiectau Cyfalaf yn seiliedig ar  ...  view the full Cofnodion text for item 23