Mater - cyfarfodydd
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9)
Cyfarfod: 08/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 71)
71 Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9) PDF 951 KB
Pwrpas: I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 9) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 9).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.
Monitro’r Gyllideb Refeniw
O ran Cronfa’r Cyngor, yr oedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu bod yna ddiffyg gweithredol o £2.502 miliwn a oedd yn newid ffafriol o £0.440 miliwn ers ffigwr y diffyg a adroddwyd ym mis 8. Byddai hyn yn gadael balans o £5.108 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn yn y gronfa wrth gefn at raid ar ôl union effaith y dyfarniadau cyflog a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol. O ganlyniad i’r moratoriwm parhaus ar wariant ymrwymedig heb fod dan gontract a phroses rheoli swyddi gweigion, yr oedd £1.548 miliwn o wariant gohiriedig a / neu hwyr wedi ei nodi ym mis 9. Crynhowyd y newidiadau i gyllidebau a gymeradwywyd a wnaed ers mis 8 ynghyd ag amrywiannau sylweddol, risgiau yn ystod y flwyddyn / materion sy’n dod i’r amlwg a risgiau eraill sydd wedi eu holrhain fel y nodir yn yr adroddiad. Yr oedd sefyllfa cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn cynnwys addasiad i falans disgwyliedig Treth y Cyngor a oedd wedi ei orddatgan ym mis 8.
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gwariant a ragwelir o £0.049 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.148 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.
Parthed cais i ddwyn arian ymlaen ar gyfer Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson a allai’r Cyngor gadw ei allu i gyhoeddi is-ddeddfau lleol neu orfodi rhai blaenorol y tu hwnt i’r safonau ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig. Cytunodd swyddogion i geisio cael ymateb gan y portffolio.
Ymatebodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) i gwestiwn yngl?n â’r cais i ddwyn arian ymlaen yn ei bortffolio, ac awgrymodd y dylid rhoi eglurhad pellach mewn mwy o fanylder mewn sesiwn gaeedig cyn yr eitem nesaf ar y rhaglen. Cadarnhaodd swyddogion cyllid fod tybiaethau yng nghyfrifiadau’r gyllideb yn seiliedig ar gymeradwyo’r ddau gais am ddwyn arian ymlaen.[1]
Cyfeiriodd y Cadeirydd at risgiau yn ystod y flwyddyn a chwestiynodd ba mor effeithiol yw lobïo Llywodraeth Cymru (LlC) yn barhaus yngl?n ag ariannu tecach.
Yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones fod gwaith a oedd yn cael ei gyflawni i fynd i’r afael â phwysau galw ac amodau’r farchnad yn dechrau cael effaith gadarnhaol dros y tymor hirach.
Rhoddodd y Cynghorydd Paul Johnson sicrwydd bod Prif Swyddogion ac Aelodau Cabinet yn parhau i wneud sylwadau cadarn, a bod Gweithgor Cyllid Tecach yn gwneud cynnydd.
Parthed cyllidebau portffolios, dywedodd y Cynghorydd Bill Crease y dylid adolygu’r dull o ragfynegi ar gyfer meysydd gwasanaeth â gorwariant o flwyddyn i flwyddyn.
Monitro’r Rhaglen Gyfalaf
Y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2023/24 oedd £92.859 miliwn, gan ystyried yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i’r rhaglen. Yr oedd newidiadau ... view the full Cofnodion text for item 71