Mater - cyfarfodydd

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6)

Cyfarfod: 16/11/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 45)

45 Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6) pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 6) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 6).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol (Cyllid Corfforaethol) sefyllfa monitro cyllideb refeniw 2023/24 ym mis 6 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £3.559 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog sydd i’w ddiwallu o arian wrth gefn), gyda balans o £3.776 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl effaith amcangyfrifedig y dyfarniadau cyflog. Darparwyd crynodeb o’r amrywiadau arwyddocaol ar draws y portffolios yn ystod y cyfnod a thynnwyd sylw at Atodiad 2 sy’n cynnwys colofn ychwanegol yn nodi’r arbedion yn sgil gohirio gwariant ymrwymedig heb fod dan gontract. Mae olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys y sefyllfa ddiweddaraf ar y ffi torri cyfraith ailgylchu – roedd y Cabinet i fod i ystyried adroddiad ar hyn. Disgwylir i 99% o’r arbedion effeithlonrwydd sydd ar y gweill yn ystod y flwyddyn gael eu cyflawni yn 2023/24.

 

O ran cronfeydd heb eu clustnodi, bydd swyddogion yn sicrhau bod adroddiadau yn y dyfodol yn defnyddio’r enw Cronfa Argyfwng COVID er cysondeb, yn unol â’r cais.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £0.069 miliwn yn is na’r gyllideb yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.266 miliwn, sy’n uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Gan gydnabod newidiadau yn y galw am wasanaeth, teimlodd y Cynghorydd Bernie Attridge y gellir fod wedi gwneud rhagamcaniadau mwy cywir mewn rhai meysydd. Gofynnodd am ragor o wybodaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol am y gorwariant o £0.307 miliwn yng nghyllideb Anableddau Corfforol a Nam ar y Synhwyrau, y cynnydd yn y galw am gyfarfodydd Gr?p Teulu a’r amrywiad o £0.821 ar gyfer cefnogaeth broffesiynol (Gwasanaethau Plant) yn cynnwys y gorwariant yng nghyllideb Gadael Gofal a ddylid, yn ei farn ef, fod wedi’i ragweld.

 

Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i anfon y cwestiynau hyn ymlaen i’r Gwasanaethau Cymdeithasol eu hateb. O ran y cwestiynau eraill, siaradodd am y 5 lleoliad y tu allan i’r sir a’r broses ar gyfer ystyried y trefniadau hynny. O ran newid defnydd cronfa wrth gefn a glustnodwyd dros dro i ariannu gwaith o fewn y gwasanaeth Carelink, dywedodd fod trefniadau croes-gymhorthdal yn caniatáu cwrdd â’r gwariant hwn yn defnyddio Cronfa’r Cyngor heb effeithio ar y cronfeydd wrth gefn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ar y costau cyfreithiol uwch, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dull a ddefnyddir i reoli swyddi gweigion parhaus, yn cynnwys defnyddio locwm arbenigol yn y Gwasanaethau Plant i ddelio gyda’r cynnydd mewn gorchmynion amddiffyn plant. Dywedodd nad oes modd rhagweld y cynnydd yn y galw oherwydd natur y gwasanaethau a bod costau’r achosion mwy cymhleth a gyfeirir at fargyfreithwyr allanol yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Wrth amlygu diogelwch plant fel blaenoriaeth ar gyfer y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorydd Christine Jones at yr heriau wrth geisio rhagweld y galw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwys.  ...  view the full Cofnodion text for item 45