Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 5)

Cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 35)

35 Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 5) pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 5) ac amrywiant sylweddol i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Strategol sefyllfa mis 5 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £3.660 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn), a oedd yn adlewyrchu gorwariant cyffredinol o £6.387 miliwn yn ystod y flwyddyn ar hyn o bryd.  Nodwyd balans cronfeydd wrth gefn at raid o £3.027 miliwn ar gyfer diwedd y flwyddyn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog).  Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli risgiau a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, yr oedd moratoriwm yn cael ei gyflwyno drwy adolygu a herio gwariant nad yw’n hanfodol ynghyd â pharhad o’r broses o reoli swyddi gweigion.  Crynhowyd y sefyllfa a ragwelid ar draws portffolios, gan gynnwys manylion amrywiadau arwyddocaol.

 

Yr oedd trosolwg o’r risgiau yn cynnwys amcangyfrif o effaith dyfarniadau cyflog, y sefyllfa ddiweddaraf parthed y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, a’r galw uchel parhaus am wasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir.  Yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol, amcangyfrifwyd y byddai 99% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.  Yr oedd diweddariad ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn disgwyl y byddai’r ymrwymiadau sy’n weddill ar gyfer Cronfa wrth Gefn Caledi yn gadael balans rhwng £3 miliwn a £3.2 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.  Yr oedd adolygiad manwl o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi nodi £0.648 miliwn i’w ryddhau i’r Gronfa wrth Gefn at Raid, gyda’r dadansoddiad cyffredinol yn dangos balans amcangyfrifedig o £14.758 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Parthed y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.006 miliwn yn uwch na’r gyllideb, a rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol yn £3.191 miliwn.  Yr oedd hyn yn cymryd i ystyriaeth gyfran y gost am gontract adnewyddu’r fflyd.

 

Wrth ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Bernie Attridge, dywedodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod swyddogion ar hyn o bryd – yn ogystal ag adolygu gwariant nad yw’n hanfodol yn barhaus – yn gweithio ar egwyddorion y moratoriwm, a fyddai’n berthnasol ar draws portffolios i gynyddu cronfeydd wrth gefn a lliniaru’r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb 2023/24.  Rhoddwyd eglurhad hefyd am y gost ychwanegol ar gyfer ymestyn contract y fflyd, a adroddwyd i’r Cabinet ac a oedd yn cael ei gadw mewn cronfa ganolog gan y Gwasanaethau Stryd.  Dywedodd y Cadeirydd y dylai pob portffolio gymryd cyfrifoldeb dros ei fflyd ei hun.

 

Mynegodd y Cynghorydd Attridge bryderon yngl?n â’r symudiad sylweddol yn y gyllideb ar y cam hwn, a dywedodd fod angen dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn er mwyn canfod yr achosion sylfaenol, yn arbennig yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Cydnabuwyd y rhwystredigaethau gan Reolwr Cyllid Corfforaethol, a siaradodd am heriau a ragwelid o ganlyniad i alw anwadal mewn rhai gwasanaethau.

 

Parthed cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, ymholodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yngl?n â’r dyraniadau ar gyfer gweithwyr dan hyfforddiant Sir y Fflint a Ffermydd Solar.  Parthed Newid Sefydliadol  ...  view the full Cofnodion text for item 35