Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 27/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 35)

35 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol i'w hystyried a chadarnhaodd y byddai'r Datganiad Cyfrifon yn cael ei symud i Ebrill 2024 yn dilyn yr eitem agenda gynharach.

 

Fel cam sy’n codi o hunanasesiad y Pwyllgor, byddai trefniadau’n cael eu gwneud i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd gwrdd ag Arweinydd y Cyngor.

 

Ar y sail honno, cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas a Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn amodol ar y newidiadau, derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.