Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cyfarfod: 27/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 33)
33 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 85 KB
Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Internal Audit Progress Report, eitem 33 PDF 902 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad ar gynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol. Ers y diweddariad diwethaf, cyhoeddwyd un adroddiad Oren Coch (peth sicrwydd) ar Ariannu Ysgolion - T? Ffynnon. Roedd ychydig o amrywiad yn y camau gweithredu hwyr ac roedd trefniadau dilynol yn parhau gan gynnwys uwchgyfeirio i dîm y Prif Swyddogion.
Yn unol â chais y Cadeirydd, gofynnir i'r gwasanaeth Tai ddarparu adroddiad ar gamau gweithredu yn ymwneud â Maes Gwern, i roi sicrwydd i'r Pwyllgor bod cynnydd yn cael ei wneud.
Gofynnodd y Cynghorydd Bernie Attridge am wybodaeth am statws presennol camau gweithredu yn ymwneud ag Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) gan gynnwys cyfeiriad at ddatblygu cynllun ar gyfer digartrefedd. Cytunodd y swyddog i gysylltu â chydweithwyr Tai a rhannu diweddariad gyda'r Pwyllgor.
Diolchodd Sally Ellis i'r tîm a'r Prif Swyddogion am y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu hwyr. O ran camau gweithredu hwyr a chanolig, cododd bryderon ynghylch nifer y rhai â dyddiad cyflwyno diwygiedig ac awgrymodd y dylid rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gan Tai a Chymunedau a Gwasanaethau Stryd a Chludiant â'r Pwyllgor. Cytunwyd y byddai'r diweddariad cyfun hwn yn cael ei gynnwys fel eitem ar agenda'r cyfarfod nesaf.
Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge ac Andrew Parkhurst.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad;
(b) Bod y gwasanaeth Tai yn rhannu adroddiad ar gynnydd gyda chamau gweithredu heb eu cyflawni o'r archwiliad ar Drefniadau Cytundebol Maes Gwern; a
(c) Rhannu eitem ar statws presennol y camau gweithredu hwyr o dan Tai a Chymunedau a Gwasanaethau Stryd a Chludiant yn y cyfarfod nesaf.