Mater - cyfarfodydd
Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23
Cyfarfod: 27/09/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 32)
32 Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 PDF 198 KB
I roi’r adroddiad terfynol i Aelodau, gyda chrynodeb o’r casgliadau ar ôl cwblhau Cam 2 yn cynnwys crynodeb o adborth ar ôl ymgynghoriad ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Corporate Self-assessment, eitem 32 PDF 332 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad ar Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23, a oedd yn crynhoi adborth o ymgynghori ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid ar ganfyddiadau dadansoddiad yn ôl yr wyth thema. Roedd nifer o welliannau wedi'u gwneud i'r broses ers y cynllun peilot a gynhaliwyd ar gyfer 2021/22. Roedd meysydd gwella a nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd.
Croesawodd Sally Ellis y gwelliannau a oedd yn adlewyrchu adborth o'r ymgynghoriad. Mewn ymateb i gwestiynau, esboniwyd y byddai model asesu cymheiriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn llywio adolygiadau gan gymheiriaid yn y dyfodol a bod cyfleoedd meincnodi’n cael eu harchwilio drwy aelodaeth y Cyngor â’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).
Mewn ymateb i sylwadau gan Brian Harvey ar welliannau pellach i'r broses flwyddyn ar ôl blwyddyn, rhoddwyd eglurhad am waith y tîm Perfformiad wrth alinio â Datganiad Blynyddol y Llywodraeth a'r fframwaith perfformiad cyffredinol. Roedd hon yn un o nifer o ddogfennau corfforaethol a heriwyd yn drwyadl drwy'r broses bwyllgorau i ysgogi gwelliant mewn perfformiad.
Croesawodd y Cadeirydd y newidiadau a oedd yn gwneud yr adroddiad yn haws ei ddarllen. Mewn ymateb i gwestiynau ar gyfleoedd i wella, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai gweithredu model cyflog newydd cadarn yn helpu i fynd i'r afael â materion recriwtio a brofir yn y farchnad heriol bresennol. Ar gam gweithredu arall, byddai cynlluniau i ddatblygu dull gweithredu seiliedig ar werthoedd diwylliannol ar draws y sefydliad yn cael eu cefnogi gan raglen hyfforddi ac ymgysylltu â’r gweithlu.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan Brian Harvey a'r Cynghorydd Linda Thomas.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod canfyddiadau Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo; a
(b) Bod y cyfleoedd ar gyfer gwella a nodwyd yn Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 yn cael eu cymeradwyo.