Mater - cyfarfodydd

Corporate Self-assessment 2022/23

Cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 24)

24 Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23 pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        I roi’r adroddiad terfynol i Aelodau, gyda chrynodeb o’r casgliadau ar ôl cwblhau Cam 2 yn cynnwys crynodeb o adborth ar ôl ymgynghoriad ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar gynnydd Hunanasesiad Corfforaethol 2022/23, a oedd yn crynhoi adborth o ymgynghoriad ac ymgysylltiad â budd-ddeiliaid ar ganfyddiadau dadansoddiad yn ôl yr wyth thema.  Diolchodd i Aelodau’r Pwyllgor am eu rhan yn y broses ddrafftio.

 

Amlinellodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg welliannau a wnaed i fodel yr hunanasesiad yn dilyn y cynllun peilot a gynhaliwyd ar gyfer 2021/22, a’r ystod o ymgyngoreion drwy gydol y broses dri cham.  Yr oedd yr adroddiad terfynol yn dangos bod y Cyngor, ar y cyfan, wedi perfformio’n dda yn ôl yr asesiad, ac mae camau gweithredu’n cael eu cymryd ar hyn o bryd parthed y meysydd a nodwyd ar gyfer eu gwella.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar gynnydd meysydd i’w gwella a nodwyd o gynllun peilot 2021/22.  Byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn ei gymeradwyo’n derfynol gan y Cabinet.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd y gweithdy ym mis Mehefin wedi bod yn agored i’r holl Aelodau, gan fod presenoldeb wedi bod yn isel.  Eglurwyd bod cynrychiolwyr o’r Pwyllgor hwn, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cabinet wedi eu gwahodd.  Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd Diwylliant, Gwytnwch, Gwerthoedd a Moeseg – y cyfeiriwyd atynt yn ystod y gweithdy – a holodd a oedd y rhain wedi eu hadlewyrchu’n glir yn y ddogfen.

 

Yngl?n â thema ‘Ymgysylltu â Chwsmeriaid a’r Gymuned’, galwodd y Cynghorydd Bernie Attridge am fwy o ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd ac Aelodau Etholedig, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.  Dywedodd y dylai perchnogaeth gorfforaethol gael ei harwain gan uwch swyddogion, a bod darpariaeth cefnogaeth ar gyfer cwsmeriaid – er enghraifft, mewn swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu – angen ei hadolygu ar fyrder.

 

Wrth ymateb i sylwadau’r Cadeirydd, tynnodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg sylw at y meysydd a nodwyd i’w gwella lle’r oedd themâu’n ymwneud â diwylliant, gwerthoedd a moeseg yn nodi camau gweithredu i’w gwreiddio ledled y sefydliad a’u mesur yn briodol.  Rhannwyd enghreifftiau o adroddiadau a pholisïau a oedd yn adlewyrchu gwytnwch cynyddol o fewn y Cyngor, a chynlluniau i ddatblygu diwylliant perfformiad drwy’r fframwaith.

 

Wrth gydnabod pwysigrwydd gwreiddio’r materion hynny ledled y sefydliad a’r strwythur, siaradodd y Prif Weithredwr am y gwaith a oedd yn mynd rhagddo i wella perchnogaeth gorfforaethol o ddarpariaeth gwasanaeth.  Rhoddodd eglurhad am yr academi ar gyfer uwch arweinwyr, y cyfeiriwyd ati yn y ddogfen, a oedd yn un ffordd o roi dull gweithredu mwy unedig ar waith wrth ddarparu gwasanaeth ledled y Cyngor.  Aeth yn ei flaen i ddweud yr arweinir diwylliant y Cyngor o’r top a dylanwedir arno gan ymddygiad swyddogion ac Aelodau, gyda’r nod o gael dull gweithredu cyson ar y cyd er mwyn gallu darparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Bill Crease y pwysigrwydd bod rheoli perfformiad yn cael ei lywio gan ymholi data er mwyn ceisio canolbwyntio ar feysydd lle mae tanberfformio; er enghraifft, y data diweddar a rannwyd am amseroedd ateb y ffôn yn y Ganolfan Gyswllt.  Yn  ...  view the full Cofnodion text for item 24