Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 4) and Capital Programme Monitoring 2023/24 (Month 4)

Cyfarfod: 14/09/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 27)

27 Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) a Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4) pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I gyflwyno Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) ac adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Mis 4).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Strategol adroddiadau ar sefyllfa mis 4 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd diffyg gweithredol o £2.644 miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog sydd i’w ddiwallu o arian wrth gefn), gyda balans o £4.043 miliwn yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn (ar ôl effaith amcangyfrifedig y dyfarniadau cyflog).  Cadarnhawyd bod Cyllid Caledi a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn ystod 2022/23 wedi dod i ben bellach, a bod balans o £3.743 miliwn o’r arian wrth gefn hwnnw wedi ei gario ymlaen.  Yr oedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i gynnydd chwyddiannol parhaus a chynnydd yn y galw ar wasanaethau.  Rhoddwyd crynodeb o’r sefyllfa a ragwelir ar draws portffolios ac, yn unol â chais blaenorol, byddai adroddiadau monitro’r gyllideb yn y dyfodol yn cynnwys dadansoddiad o symudiadau.

 

Yr oedd trosolwg o risgiau yn cynnwys sefyllfa ddiweddaraf y tâl am dorri rheolau ailgylchu gwastraff, y galw cynyddol am wasanaethau digartrefedd a lleoliadau y tu allan i’r sir, ac adnewyddiad contract y fflyd, a oedd ar ddod.  Yn seiliedig ar y sefyllfa bresennol, amcangyfrifwyd y byddai 99% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd wedi eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Parthed y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelwyd y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.065 miliwn yn is na’r gyllideb, a rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol yn £3.262 miliwn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson am ddyraniad y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a roddwyd o’r neilltu ar ffurf llinell cyllideb refeniw a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn gwneud cyfanswm o oddeutu £0.250 miliwn.  Gofynnodd hefyd i gael gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod nesaf am refeniw a godwyd o’r cynnydd mewn premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ar gyfer y flwyddyn bresennol o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf.

 

Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gysylltu â Rheolwr Refeniw a Chaffael i ddarparu’r ail beth.  Parthed yr ymholiad yngl?n â’r CDLl, eglurwyd bod trosglwyddiad y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a oedd yn weddill o 2022/23 wedi ei gynnwys yn y cronfeydd wrth gefn at raid a ddygwyd ymlaen i’r flwyddyn bresennol.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y dyraniad refeniw CDLl sydd ar ôl (oddeutu £110,000) yn dal i fod yng nghyllideb Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2023/24. Perodd hyn i’r Cynghorydd Sam Swash holi pam nad oedd y swm hwn wedi ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn i gynorthwyo’r sefyllfa gyffredinol.  Cytunodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol i ddarparu ymateb ar wahân.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu unrhyw ddyraniadau nad oedd wedi eu gwario, heb ymrwymiadau contract, y gellid eu rhoi mewn cronfeydd wrth gefn.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge yngl?n â nifer y symudiadau mewn cyllidebau a gymeradwywyd ar y cam cynnar hwn, cytunodd y Cadeirydd ac  ...  view the full Cofnodion text for item 27