Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2022/23 End of Year Performance Report
Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (eitem 44)
44 Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23 PDF 171 KB
Pwrpas: Adolygu canlyniadau blynyddol Cynllun y Cyngor yn ôl y cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r blaenoriaethau a bennwyd ynddo ar gyfer 2022/23.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Plan 2022/23 End of Year Performance Report, eitem 44 PDF 4 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Diwedd Blwyddyn ynghylch Perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Cynllun y Cyngor 2022/23 wedi’i fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. Roedd yr adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o berfformiad cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022-23 ar ddiwedd y flwyddyn (Ch4).
Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 77% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 62% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau ar gyfer y flwyddyn.
Roedd hwn yn adroddiad yn seiliedig ar eithriadau oedd yn canolbwyntio ar feysydd
perfformiad nad oedd yn cyflawni eu targedau ar hyn o bryd.
Croesawodd y Cynghorydd Hughes y ddogfen a oedd wedi cael ymateb da yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol. Soniodd am gwblhau “Gwneud y prosesau i hawlio prydau ysgol am ddim mor hawdd â phosibl er mwyn cynyddu’r canran sy’n cofrestru yn erbyn hawliad” ac fe holodd am y ffigyrau ar gyfer haf 2023. Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y wybodaeth wrthi’n cael ei chasglu gan y 14 o ysgolion a ddarparodd y rhaglen “bwyd a hwyl” ac y byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu gydag Aelodau pan fyddai ar gael.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau fel y manylir yng Nghynllun y Cyngor 2022/23 yn cael eu cymeradwyo a’u cefnogi;
(b) Bod y perfformiad cyffredinol yn ôl mesurau / dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2022/23 yn cael ei gymeradwyo a’i gefnogi;
(c) Bod y Cabinet yn cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.