Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2022/23
Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (eitem 47)
47 Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2022/23 PDF 183 KB
Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2022/23 drafft i'r Aelodau i'w argymell i'r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Treasury Management Annual Report 2022/23, eitem 47 PDF 316 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys drafft 2022/23 a oedd ynghlwm â’r adroddiad.
Fel sy’n ofynnol gan Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor, roedd yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Gorffennaf ble roedd swyddogion
yn ymateb i gwestiynau i foddhad y Pwyllgor ac nid oedd unrhyw
faterion penodol i’w dwyn i sylw’r Cabinet.
Argymhellwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 24 Hydref ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.
PENDERFYNWYD:
Bod fersiwn ddrafft yr Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2022/23 yn cael ei hargymell i’r Cyngor Sir ar 24 Hydref ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.