Mater - cyfarfodydd
Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4)
Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (eitem 45)
45 Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4) PDF 136 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2023/24 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 4), eitem 45 PDF 82 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 4), eitem 45 PDF 36 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 4), eitem 45 PDF 105 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2023/24 (Month 4), eitem 45 PDF 39 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 (Mis 4)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg manwl cyntaf i Aelodau o sefyllfa fonitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar gyfer diwedd y flwyddyn oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredu o £2.644 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog y byddai angen ei dalu o gronfeydd wrth gefn - ar y pryd wedi’u hamcangyfrif yn £2.727 miliwn)
· Balans wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2024 o £4.043 miliwn (ar ôl amcangyfrif effaith dyfarniadau cyflog)
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.065 miliwn yn is na’r gyllideb.
· Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.262 miliwn.
Roedd y rhagolygon economaidd yn dal i fod yn heriol o ganlyniad i lefelau chwyddiant uchel. Roedd effeithiau hynny, ynghyd â chynnydd parhaus mewn galw am wasanaeth yn
dod yn fwyfwy anodd i ddelio â nhw gan nad oedd cyllid y Cyngor yn gallu delio â graddfa’r pwysau hynny. Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli’r risgiau hynny a lliniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, roedd moratoriwm drwy adolygu a herio gwariant nad yw’n hanfodol ynghyd â phroses o reoli swyddi gweigion yn parhau.
Roedd galw sylweddol a chynyddol o fewn y Gwasanaeth Digartrefedd. Roedd dyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu llety dros dro addas ar gyfer unigolion a theuluoedd digartref sy’n bodloni meini prawf cymhwyso Llywodraeth Cymru a oedd yn llai caeth na Lloegr. Dechreuodd y cynnydd mewn galw yn ail hanner 2022/23 ac roedd wedi cyflymu’n sylweddol ers dechrau 2023. Cynhaliwyd trafodaeth fanwl yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ar y pwysau a wynebir o ran digartrefedd. Byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ar 4 Hydref gydag Aelodau Cabinet i drafod sut y gellir wynebu’r risgiau a byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet.