Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy and Budget 2024/25

Cyfarfod: 19/09/2023 - Cabinet (eitem 42)

42 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 pdf icon PDF 149 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r amcangyfrifon ar gyfer y gyllideb a’r strategaeth ar gyfer pennu cyllideb 2024/25 a chyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Yn dilyn cyfarfodydd y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd gweithdai cyllideb ar gyfer Aelodau ar 31 Gorffennaf er mwyn i Aelodau gael cyfle i holi am unrhyw fanylion pellach yngl?n â sefyllfa’r gyllideb yn gyffredinol a’r amserlen ar gyfer gosod cyllideb ffurfiol.

 

Roedd y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2024/25 wedi’i hadlewyrchu yn yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith a gynhaliwyd gan y Portffolios dros yr Haf.  Roedd y Cyngor yn dal i wynebu her fawr wrth geisio canfod datrysiadau a fyddai’n galluogi iddo gytuno ar gyllideb gyfreithiol a chytbwys erbyn mis Mawrth flwyddyn nesaf ac roedd angen iddo fynd i’r afael â hyn ar frys.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dau weithdy i Aelodau wedi cael eu trefnu ac y byddent yn cael eu cynnal ar 5 a 10 Hydref a byddai manylion am y sefyllfa ddiweddaraf yn cael eu rhannu.   Byddai Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, hefyd yn bresennol.

 

Roedd manylion y Setliad yn debygol o gael eu derbyn tuag at ddiwedd Rhagfyr.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol lle cynhaliwyd trafodaeth fanwl.  Roedd yr Aelodau’n cydnabod y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd a gofynnwyd cwestiynau yngl?n â pha gynigion radical fyddai’n cael eu cyflwyno. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn a nodi’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 a’i gyfeirio at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol;

 

(b)       Nodi'r gwaith parhaus ar ddatrysiadau cyllideb y byddai angen eu hystyried ar fyrder er mwyn galluogi'r Cyngor i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ym mis Chwefror 2024.