Mater - cyfarfodydd
Tair Ffordd a Phrosiect Adleoli Growing Places (Datblygiad Maes Gwern)
Cyfarfod: 20/07/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 16)
Tair Ffordd a Phrosiect Adleoli Growing Places (Datblygiad Maes Gwern)
I roi diweddariad i’r aelodau am gynnydd datblygiad Maes Gwern yn Yr Wyddgrug
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (16/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (16/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (16/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (16/5)
- Gweddarllediad ar gyfer Tair Ffordd a Phrosiect Adleoli Growing Places (Datblygiad Maes Gwern)
Cofnodion:
Ystyriwyd bod yr eitem hon wedi’i heithrio yn rhinwedd Paragraff(au) 14 o
Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cynigiwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorydd Dave Mackie, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gladys Healey.
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion drosolwg o’r cynnydd ar ddatblygiad Maes Gwern. Cyfeiriwyd at y cyfleusterau presennol yn Nhri Ffordd, Bretton (gwasanaeth dydd sy’n darparu gweithgareddau mewn amgylchedd garddwriaethol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu) a Growing Places yn Shotton (sy’n darparu gwasanaeth tebyg ar gyfer oedolion gydag anghenion iechyd meddwl) ac fe nodwyd nad oeddent yn gallu ehangu ar gyfer datblygu gwasanaethau. Cyflwynodd y Swyddog Contractau a Chydymffurfio Cefnogi Pobl wybodaeth gefndir i’r goblygiadau ariannol.
Yn dilyn y cyflwyniadau, ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan yr Aelodau.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar ddatblygiad Maes Gwern ar gyfer adeiladu’r datblygiad newydd ar yr amod bod y grant gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo.