Mater - cyfarfodydd
Cydnerthedd Seiber
Cyfarfod: 12/10/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 37)
Cydnerthedd Seiber
Pwrpas: Rhannu adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar Cydnerthedd Seiber gyda’r Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (37/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (37/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (37/4)
- Gweddarllediad ar gyfer Cydnerthedd Seiber
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad yn ystyried goblygiadau adroddiad cenedlaethol Archwilio Cymru ar seibrgadernid a oedd wedi ei rannu gyda’r holl awdurdodau lleol i grynhoi’r hyn a ddysgwyd o ymosodiadau seibr diweddar a chanlyniadau’r gwaith dilynol ledled Cymru. Ystyriwyd yr adroddiad, nad oedd yn cynnwys unrhyw argymhellion penodol ar gyfer Sir y Fflint, gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor hwn er mwyn goruchwylio’r risgiau.
Amlygodd y Prif Swyddog a Rheolwr Gwasanaethau Isadeiledd TG y prif ystyriaethau ac ymatebodd i gwestiynau ar waith ar y cyd a pholisïau amrywiol yn cefnogi seibrgadernid.
Fel yr awgrymwyd gan y Cadeirydd, cytunodd y swyddogion i ymgysylltu ag Archwilio Cymru parthed dichonoldeb datblygu strategaeth seibrgadernid drosfwaol ar gyfer y Cyngor.
Cafodd yr argymhellion, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig a’u heilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Allan Marshall.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r risg o ymosodiadau seibr yn erbyn y Cyngor, ac yn cefnogi’r camau a gymerwyd i sicrhau bod systemau cyfrifiadurol y Cyngor a’r data maent yn ei ddal yn aros yn ddiogel a chadarn.
(b) Bod e-bost yn cael ei anfon i’r holl Aelodau yn eu cynghori i gwblhau’r cwrs ‘Cyber Ninja’ erbyn diwedd y flwyddyn er mwyn ceisio lleihau’r risg o dramgwyddau seibr; a
(c) Bod swyddogion yn ystyried ffurfio Strategaeth Seibrgadernid.