Mater - cyfarfodydd

Gwydnwch a Chapasiti o fewn Strydlun a Chludiant

Cyfarfod: 18/07/2023 - Cabinet (eitem 35)

35 Cydnerthedd a Gallu i Gyflenwi yn y Gwasanaethau Stryd a Chludiant pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Rhoigorolwg i’r Cabinet ar y sefyllfa staffio bresennol, sy’n effeithio ar gydnerthedd y timau Gwasanaethau Fflyd a Strategaeth Gwastraff a’u gallu i ymateb i’r galw am y gwasanaeth a chyflawni’r blaenoriaethau’n effeithiol ac yn hyblyg, ac argymhellion i ddatrys y broblem.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod y portffolio Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth wedi profi sawl problem dros y ddwy flynedd ddiwethaf gyda recriwtio staff, cadw staff ac absenoldebau hirdymor a oedd wedi effeithio ar wytnwch a chapasiti’r timau presennol.

 

Rhagwelwyd y byddai’r galw ar y portffolio yn parhau i gynyddu wrth i ddeddfwriaeth gael ei diweddaru neu ei chyflwyno ac roedd y pwysau i ddarparu gwasanaethau ychwanegol neu newydd yn lluosogi.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg i Aelodau o’r problemau staffio parhaus o fewn y portffolio, a oedd yn effeithio ar wytnwch a chapasiti’r timau presennol i ymateb i ofynion gwasanaethau a darparu blaenoriaethau gwasanaethau’n effeithiol ac yn hyblyg.

 

Cyflwynodd yr adroddiad gynigion i fynd i’r afael â’r materion o ran gwytnwch a chapasiti o fewn y portffolio mewn dau faes allweddol: gwasanaethau fflyd a’r strategaeth wastraff. Nid oedd y cynigion angen unrhyw newidiadau strwythurol ac nid oeddent yn rhoi unrhyw weithwyr presennol mewn perygl. Roedd y meysydd hynny o’r portffolio wedi eu nodi fel rhai risg uchel, lle roedd angen capasiti cynyddol i sicrhau fod y gwasanaeth yn parhau yn wydn gan sicrhau fod targedau statudol yn cael eu bodloni, fod dyletswyddau cyfreithiol yn cael eu gwireddu a bod y galw a ragwelir ar gyfer y dyfodol yn cael ei fodloni.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod rôl y Rheolwr Fflyd yn un statudol ac fel y rheolwr trafnidiaeth rhagnodedig ar drwydded y gweithredwr, roedd yn ofynnol iddo sicrhau fod y gofynion cyfreithiol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffyrdd yn cael eu bodloni. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod yr heriau a wynebir gan y portffolio yn nhermau gwytnwch staff a chapasiti yn cael eu cydnabod a bod y risgiau cysylltiedig a amlygwyd yn cael eu nodi; a

 

(b)       Bod y cynigion y manylir arnynt yn yr adroddiad yn cael eu cefnogi, a fyddai’n golygu fod angen dyrannu cyllideb ychwanegol ar gyfer creu y swyddi ychwanegol canlynol:

  • Gwasanaethau Fflyd - dwy swydd ychwanegol i gefnogi darpariaeth a darparu gwytnwch.
  • Y Strategaeth Wastraff - tair swydd swyddog ailgylchu a chydymffurfedd data ychwanegol